Obrázky na stránke
PDF
ePub

hynt yn yr ysgolion, mae'n fwy na thebig na chlywid y gŵyn, sydd heddyw'n gyffredin ar ran y tô sy'n codi, nad allant ddeall Cymraeg y pulpud, na'r galw am droi'r gwasanaethau o'r Gymraeg i'r Saesneg.

(d)

Y mae un dylanwad anhepgor eto, na chyfeiriais ato. Un peth sy'n sier, nad all iaith ymwreiddio, blodeuo a pharhau, heb lenyddiaeth genedlaethol. Medd Cymru lenyddiaeth y gall unrhyw genedl fod yn falch ohoni,trysorfa o farddoniaeth yr Oesoedd Canol, a llawer ohono heb ymddangos hyd yn hyn mewn argraff. Ni raid son am ei gorchest-weithiau rhyddieithol, megis y "Mabinogion ", y "Bardd Cwsg", a "Drych y Prif Oesoedd". Fe saif yr hen awduron clasurol hyn fel colofnau hybarch, yn safonau i'r cenedlaethau y sydd ar ddyfod, i fesur eu galluoedd wrthynt, ac yn batrwm i'w efelychu. Ond gyda phob parch dyladwy i'w godidowgrwydd, disgwyliwn am eu cystal eto yn y dyfodol, yn bendifaddeu mewn meysydd sydd eto heb eu meddiannu. Credaf na chyrhaeddodd llenyddiaeth Cymru ei llawn dŵf yn y cynoesoedd, a bod lle iddi ymddatblygu. Edrychwch ar farddoniaeth y ganrif hon; y mae llawer ohono (gwell imi beidio rhoddi enwau'r awduron), yn tan gamp, a chyda lledaeniad addysg nid oes berigl y bydd pall ar ddarllenwyr i'w fwynhau. Gellir honui bod y gwladwyr Cymreig, ar gyfartaledd, a'u gogwydd yn fwy nag eiddo'r Sais, at lenyddiaeth, a chymharu rhai yn yr un radd o gymdeithas. Teimlant fwy o barch at enillydd y Gadair neu'r Goron, mewn Eisteddfod Genedlaethol, nag at enillydd y Derby, neu at berchennog y rhedegfarch Manna, neu Pretty Polly. Dyma faes agored i'n llenorion ieuainc,-darpar ymborth meddyliol ar gyfer y werin a'r dosbarth canol, a chario ymlaen waith y diweddar Syr

Owen Edwards, bardd rhyddieithol Cymru, ac awdur "Clych Atgof" etc., gyda'i wybodaeth eang o'r meddwl Cymreig a'i anghenion, a'i gydymdeimlad dwfn a dyheadau ei genedl. Gallaswn enwi dwsin o ysgrifenwyr poblogaidd, a chyfieithwyr o ieithoedd Ewropeaidd, sydd wir deilwng o'u rhestru wrth ochr y gwladgarwr athrylithgar hwn. Ond rhaid ymatal ar hyn o bryd.

Ymddengys i mi fod un bwlch eto heb ei leuwi, sef prinder llyfrau ar gyfer plant. Digon gwir fod enwd lled helaeth ohonynt. Rhydd pamffled a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan "Gylch Dewi" restr ohonynt, a deallaf fod rhai cylchgronau ar gyfer plant, nid yn unig yn talu'n well na'r rhai ar gyfer pobl mewn oed, eithr yn cadw'r lleill yn fyw. Gwyn eu byd y genhedlaeth yr huliwyd y fath arlwy iddi. Ond eto y mae lle. Tusw glas o flodau cynnar mis Mawrth ydynt, a blaenffrwyth a ddilynir, gobeithio, gan gynhaeaf toreithiog. A pha well gwasanaeth a fedr dyn wneuthur i'w wlad na thywys yr ieuaine. yn yr iawn gyfeiriad, a llesteirio 'r llif o lyfrach a phapurach a orlifant o'r Cyfandir i Loegr a Chymru? Cyfoded llu o gymwynaswyr eu gwlad i ddywedyd gyda phrydydd yr Alban:

I mind it weel, in early date,

When I was beardless, young and blate,
And first could thresh the barn.

Ev'n then a wish (I mind it's power),

A wish that to my latest hour

Shall strongly heave my breast;

That I for poor auld Scotland's sake
Some useful plan or beuk could make,
Or sing a song at least.

Mewn gair, credaf yn bendant na chyrhaeddodd yr Awen Gymreig ei huchafbwynt nac yn Nhaliesin nac yn

Nafydd ap Gwilym, a bod yr Oes Aur yng Nghymru eto i ddyfod.

(e)

Ac at bwy y dylem edrych am y moddion i sylweddoli'r weledigaeth? At y Cymdeithasau Cymraeg yng Nghymru ac ymhlith y Cymry ar wasgar. At y symudiad addawol sydd ar droed i feithrin y ddrama, at yr hon y credaf fod gan y Cymry gymwysterau naturiol. At yr Eisteddfodau lleol a Chenedlaethol, ac at Eisteddfodau'r Plant, -os na ddisodlir Llenyddiaeth ynddynt, yn llwyr, gan Gerddoriaeth. At y colegau a'r prif-athrofeydd cenedlaethol, y rhai, ni a hyderwn, a ddeuant yn fagwrfeydd i feithrin athrawon llawn o frwdfrydedd dros Gymru a phopeth Cymreig. At y Brifysgol; y mae syniad ar led, bid gam, bid gymwys, nad yw hi'n gwneuthur dros Gymru Gymreig yr hyn a ddisgwylid ganddi,—sef yr adeiladai Gymru Newydd. Y mae lle i ofni iddi lwyddo i lunio Cymru Newydd, yn wir, mewn un ystyr, h.y. Cymru ar gynllun Lloegr. Gall Cymru ddywedyd yng ngeiriau'r broffwydes Debôra, "Am neilltuaeth y Brifysgol ", yn yr ymdrech dros ddelfrydau cenedlaethol, "y mae mawr ofal calon". Ai gwir ai gau yr haeriad, nid ar yr athrawon Cymraeg y mae'r bai. Fodd bynnag, ni pherthyn i alltud fel fi, i dorri'r ddadl, ond gobeithio nad yw'n rhy hwyr iddi gyfodi yn ei llawn nerth i sicrhau i ni fuddugoliaeth.

Oddiwrth y disgrifiad a roddais,-neu'n hytrach a roddaswn pe buasai amser yn caniatau,-o'r symudiad ieithyddol ymhlith y cenhedloedd bychain yn Ewrop, a'r tueddiadau diweddar ym Mhrydain, gwelwn, gobeithio, fod coleddu'r iaith frodorol yn rhan bwysig o'r deffroadau cenedlaethol. Gwelwn yr iaith yn adnewyddu ei hieuenctid, ac yn codi o'r llwch a'r llaid, ymysg cenhedloedd truanaf eu cyflwr, ac yn anadlu ynddynt ysbryd adnewyddol. Gwelwn pa fodd yr ysbrydolodd yr iaith bersonau unigol

:

i geisio gwneuthur rhywbeth i ddyrchafu clod eu bro enedigol. Gwelwn y trysorau llenyddol a ddatgloir gan yr iaith, a'r symbyliad a rydd i dalentau brodorol :gynted ag y llenwir cenedl â'r ddelfryd i ymegnïo, wele pawb am y goreu i roddi iddi ei lle dyladwy yng nghynnydd y byd. Gwelwn ddiwylliant yn ymeangu ac yn esgor ar lwyddiant cymdeithasol, ac ar gelf flodeuog, ac yn symbylu trafnidiaeth. Gwelwn iaith yn ymgyfaddasu at reidiau a datblygiad bywyd diweddar. Gwelwn feddyliau yn medru yfed i mewn ddiwylliant oddiallan, heb golli yr un o'i neilltuolion a'i gwahanfod. Gwelwn iaith yn magu ysbryd annibyniaeth mewn cenedl fechan i daflu ymaith yr iau, ac i sicrhau ei hawliau oddiar law ymerodraethau grymus.

I benglymu'r mater. Balch ydym o'r rhagorfreintiau a fwynhawn fel aelodau o'r ymerodraeth Brydeinig. Ymogoneddwn yn ein hetifeddiaeth, fel llenyddiaeth Seisnig. Ar yr un pryd, nis gallwn lai nag edrych ymlaen gydag anesmwythyd a phryder at y posibilrwydd i'r holl deyrnas gael ei gwastatau i un lefel, i unffurfiaeth diliw, difywyd, diffrwyth, gan "Steamroller y Cockney". Gwae ni, os derfydd am ddelfrydau cenedlaethol Cymru, yr Alban ac Iwerddon, ac y cawn, i'n cysuro am y golled, y peth hwnnw a elwir "effeithiolrwydd masnachol ". I'r gwrthwyneb, ni a gredwn y gallwn gadw'n gwahanfod, ein nodweddion, ein hiaith. Credwn fod gan y Cymro ddoniau a all gyfrannu rhywbeth gwerthfawr i'r ymerodraeth, ac nad yw mewn modd yn y byd yn anghyson â chynnydd materol a thymhorol, ac y byddai'n resyn, yn annoethineb, yn ffolineb, yn fradwriaeth o'r math waethaf, i ymgolli yn y genedl Seisnig, yn unig er mwyn sicrhau unffurfiaeth undonog. Yn hytrach, hyn ddylai fod y nôd i gyrchu ato: meithrin pob elfen sydd gymwys i ddatblygu cymeriad cenedlaethol. Credwn gyda'r Americanwr Russell Lowell:

All nations have their message from on high,
Each the Messiah of some central thought
For the fulfilment or delight of man”.

Boed i ni, un ac oll, rhieni, athrawon, arholwyr, gweinidogion a gwladweinwyr, gyduno mewn un cynghrair cysegredig, gan gydweithio i hwylio Cymru Lân ar y ffordd tua Pherffeithrwydd.

(ii) SYR JOHN MORRIS-JONES, M.A., LL.D.
Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Gogledd, Bangor.

Y mae problem Cadwraeth yr Iaith Gymraeg wedi cymryd agwedd newydd yn y blynyddoedd hyn; yn wir, hyd yn gymharol ddiweddar prin y gellid ei galw'n broblem o gwbl. Pan nad oedd ymysg y werin ond ychydig a ddeallai ddim Saesneg, a phan nad oedd ond Cymraeg ar arfer yn holl gysylltiadau cyffredin bywyd, nid oedd yn anodd ei chadw'n fyw. Ond y mae'r ysgolion yn yr hanner can mlynedd a aeth heibio wedi gwneuthur eu hôl; y mae gan bawb bron ryw wybodaeth fwy neu lai o Saesneg, ac fe ddaw'r papurau Saesneg â phob newyddion i ni bob dydd; ac yn awr rhaid i ni wynebu'r broblem o gadw'r iaith Gymraeg yn fyw ochr yn ochr â'r iaith Saesneg.

Ar yr wyneb y mae'n rhyfeddod ei bod wedi byw. Pan ystyrier fel y mae'r iaith fawr Saesneg wedi eangu ei therfynau wedi disodli'r Wyddeleg drwy Iwerddon bron, wedi ymledu dros gyfandir Gogledd America-y mae bod yr iaith Gymraeg yn fyw eto yma yng nghesail Lloegr yn un o ryfeddodau ieithyddol y byd. Ond os creffir dipyn is yr wyneb nid yw'n anodd canfod pa fodd y bu. Yr oedd Cymru gynt yn neilltuedig yng nghysgod ei mynyddoedd, yn byw ar ei hadnoddau a'i diwydiannau ei hun, ac yn ddigonol iddi ei hun; yr oedd ei haith ei hun ganthi, a

« PredošláPokračovať »