Obrázky na stránke
PDF
ePub

pwnc yn llawer dyfnach na hynny, ac yn ymwreiddio yng nghariad rhieni at eu plant â'r plant at eu rhieni. Câr rhieni a phlant fod gyd â'i gilydd. Naturiol yw i'r rhieni gwlatgar a chrefyddol lynu hyd y gallont wrth eu hiaith a'u cenedl hwy eu hunain. Eithr y ffaith yw fod ymhob capel rywrai analluog i ddeall a gwerthfawrogi moddion Cymraeg. Beth a wneir â'r cyfryw rai? Nid yw beio rhieni nac athrawon, mwy na'r bobl ieuanc eu hunain, yn cwrdd a'r anhawster. Ac yn y fan yma y caiff y pregethwr ei broblem fwyaf difrifol. Y ffaith syml yw bod o flaen ei bulpud ef eneidiau na fedrant ddeall ei genadwri ond yn amherffaith iawn; a chwestiwn ei gydwybod fel cennad dros Grist yw, Beth yw ei ddyletswydd tan yr amgylchiadau? Ai iawn iddo, ger bron Duw, yw ymgadw mor llwyr at un iaith os y gŵyr y buasai ambell frawddeg mewn iaith arall yn gymorth i wrandawr ddeall ei genadwri? Ai gormod-yn enwedig mewn tref Seisnig -a fâi ambell anerchiad achlysurol mewn iaith a ddėėllid gan wrandawyr ieuanc? Y gosodiad Cristnogol yw bod achub enaid yn fwy pwysig nag unrhyw iaith. Nid wyf heb gofio gwerth iaith cenedl i'w chrefydd. Credaf mai'r iaith Gymraeg yw'r effeithiolaf i fynegi anian ac athrylith y Cymro, ac yn sicr ei brofiad ysbrydol. Credaf mai dyletswydd a braint pawb ohonom yw gwneuthur ein goreu i ddysgu a meithrin ein Heniaith ein hunain, a cheisio gan ereill i wneuthur yr un peth. Ond, er hynny, a fynnai neb i bulpud ac eglwys newynu pobl ieuanc allan oddi wrthynt? Neu a'i bodlon neb ar weld rhieni'n dilyn eu plant allan o'r eglwysi Cymraeg, yn hytrach na llefaru dim wrthynt yn Saesneg? Gwaith athro mewn Cymraeg yw dysgu'r iaith yn drwyadl i'w ddisgyblion, ond nid yr un yw safle llenor a phregethwr, neu athro ysgol Sabothol. Nid pwnc o ramadeg yw'r Bregeth ar y Mynydd, eithr yn hytrach o gymeriad moesol ac ysbrydol. Cais y pregethwr

yrru i feddwl ei wrandawr yr apêl a gynnwys egwyddorion a gwirioneddau tragwyddol a digyfnewid, ac yn gyffredinol i bob iaith a chenedl. Mae'r iaith Gymraeg yn gyfrwng ardderchog i fynegi crefydd, a'r cyfrwng goreu i un a aned yn Gymro; ond nid yw iaith ynddi hi ei hun yn nôd eithaf, eithr gwirionedd a bywyd sy felly; a lle na cheffir y cyfrwng goreu, gwell yr eilradd na bod heb ddim.

Gwelir llawer o anghysondeb ac annhegwch yn agwedd rhai tuag at bregethwyr ac eglwysi Cymreig ar y mater tan sylw. Maent hwy eu hunain yn defnyddio ieithoedd estron i egluro'r iaith Gymraeg mewn cylchoedd neilltuol. Ni phetrusa athrawon ysgolion a cholegau wneuthur hynny. Eglurir y Gymraeg drwy'r Saesneg ac ieithoedd estron ereill mewn dosbarthau i ddisgyblion, a'r un modd mewn gramadegau i'r cyhoedd. Pwy a ddychmygai am eiliad fod un o Gymry dysgedicaf a phuraf ei oes-fy annwyl gyfaill Pedr Hir-yn cyhoeddi ei Key to the Welsh Bible yn Saesneg onibai ei fod yn gwybod mai gwell oedd y ffordd honno nag un arall? Ond mynnai rhai osod gormes ar y pulpud a'r Ysgol Sabothol nas rhoddid ar ddim na neb arall. Gwneir hynny gan rai a draddodant areithiau Gwyl Ddewi yn Saesneg, a hyd yn oed anerchiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr esgus dros hyn, meddir, yw er mwyn i'r gwrandawyr ddeall yr hyn a draethir. Fel rheol, anerchir yn Saesneg er mwyn yr ychydig o'r gwyddfodolion na bydd yn deall Cymraeg. O'm rhan i, nid wyf yn gweld pa fodd y gellir cynnal Eisteddfod Genedlaethol heb ddim Saesneg ynddi. Nid boneddigaidd a fai cardota arian a chefnogaeth oddi wrth estroniaid a gwrthod iddynt unrhyw gydnabyddiaeth am hynny—dim cymaint, yn ol rheol rhai, a diolch iddynt yn eu hiaith eu hunain. Ac yn awr, gan fod yr arfer mor gyffredinol i ddefnyddio'r ddwy iaith, y naill i egluro'r llall, a defnydd

io'r Saesneg lle na bo gwrandawyr yn deall y Gymraeg, paham y beirniedir yr eglwysi mor llym gan rai, yn enwedig mewn trefi estron, am ddefnyddio peth ar y Saesneg? Mewn gwirionedd, onid yw synnwyr cyffredin yn dangos mai dyletswydd pob gweinidog ac athro Ysgol Sabothol yw defnyddio'r iaith Gymraeg cyn belled ag y gall fod yn ymarferol, ac os y bydd y Saesneg yn fwy effeithiol wedyn, ei defnyddio hithau? Hyd y gwelaf i, defnydd doeth o'r ddwy iaith fydd yr unig ffordd i eglwysi Cymraeg gyfarfod â sefyllfa pethau fel y maent ar hyn o bryd mewn trefi Seisnig.

Nid wyf fodd yn y byd yn dibrisio'r pwys o gadwraeth yr Heniaith yn unman. Yr wyf yn edmygu'r athrawon a'r cymdeithasau sydd yn Lerpwl, fel mewn amryw drefi estron ereill, yn meithrin yr iaith a'r ysbryd Cymreig. Y gresyn yw na chaent fwy o gefnogaeth. Eithr yma, fel yng Nghymru ei hun, rhaid wrth gymorth y cartrefi, ac yn enwedig y fam. Er fy mod i raddau yn fy nghondemnio fy hun wrth hynny, fy nghred yw mai'r rheswm am fod gennym rai meibion a merched, a aned ac a faged yn Lerpwl, yn deall ac yn llefaru Cymraeg croyw yw, ddarfod iddynt ymarfer â'r iaith honno mor dda ar eu haelwydydd nes dyfod yn abl i'w deall mewn Beibl a phregeth. Ac er yn credu y rhaid wrth beth Saesneg, yn ein eglwysi Cymraeg, credaf yr un pryd dros ddyfal barhau ymlaen i gadw a meithrin ein Heniaith, a hynny ar gyfrif ei gwerth llenyddol a mynegiadol, yn enwedig i grefydd.

Ar y cyfan, mae'r Sais yn fwy parchus o'n hiaith yn awr nag y bu, a hynny i raddau helaeth o herwydd ein bod yn siarad ei iaith ef ei hun yn gywirach nag y gwnaem gynt. Annoeth, mi gredaf, yw inni wneuthur ein sêl dros ein iaith yn achlysur dig a chweryl rhyngom â chymdogion o genhedloedd ereill. Gwir ddarfod ein gorthrymu gan

Saeson, a bod ohonynt rai eto'n ein dirmygu; ond nid y ffordd i greu awyrgylch ffafriol i ddatblygiad ein nodweddion cenedlaethol ym mysg estroniaid yw eu diystyru a'u clewtio â geiriau senn. Nid anfynych y geilw rhai rhyw abstract o'r eiddynt yn "Sais ", ac yna'i regi. Yr ydym ni yn trigiannu ym mysg cymdogion Seisnig, a than orfod i ymdrafod â hwynt yn eu hiaith eu hunain; a'n dylestwydd yw, gwneuthur ein goreu i feithrin teimladau da, a thuedd gyweithas, rhyngom ni a hwythau. Oni wnawn hynny, byddwn yn annheilwng o unrhyw iaith. Dibynna gwerth uchaf iaith ar ansawdd y galon a fynegir trwyddi. Pa werth sy mewn son am "ddisgleirdeb yr iaith Gymraeg", os disgleirdeb fflam fyglyd rhêg a fydd iddi ? Pa glod fydd i "loywi'r Gymraeg", oni bydd namyn gloywder saeth a drochwyd yng ngwenwyn malais, a'i hanelu i galon brawd? Pa fudd a ddaw o sôn am y "Gymraeg wen", a'r ysbryd a fo ynddi cyn ddued â'r inc? A'i gwell Cymraeg o enau cythraul na Saesneg o enau sant? Bydd ein Cymraeg, a phopeth annwyl a gwerthfawr arall a berthyn i'n cenedlaetholdeb, yn fyrr o gyrraedd yr amcan uchaf oni feithrinir brawdoldeb dynol trwy'r cwbl. Yr Heniaith annwyl!

Rhaid lliwio'r porffor perffaith

Yn wrid i ŵr wâd ei iaith.

(iv) YR ATHRO J. E. LLOYD, M.A., D.LITT.
Coleg y Brifysgol, Bangor.

Dywedodd yr Athro J. E. Lloyd nad hawdd oedd ateb y cwestiwn, ai ffafriol ai anffafriol oedd yr argoelion gyda golwg ar fywyd yr Iaith Gymraeg. Yr oedd yn eglur, ar y naill law, fod mwy o astudio ar yr iaith nag erioed yn ei hanes. Bum mlynedd a deugain yn ol, pan oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth, deuai'r Parch. D. Silvan Evans

yn achlysuroi în coleg i gmal i stari pi↑ Grones nad oedd ond efe aelod bra. Din bell p Mhrifysgol Cymru dleg o ating but all a llu o fyfyrwyr yn dilyn y bantals Gladlayd rhestr yn ddiweddar yng nghylchgrawn Barli Celtaidd y Brifysgol a ddangiosai fod ugaltias cefrydwy na chwilo i mewn i wahanol byr sian yn ood allan o hate. Den ae iaith y Cymry. Celd hefyi. flell liver sell yo ymhyfrydu i ddarllen Cyureg; prawf & Lyy sell llwyddiant eithriadol y Garis for Beb: 35. a yung hosai dan nawdd diwyllion y Brifysg. Pay allai dybied fod llenyddiaeth Gymreig yn dit eri mewn des a welodd gyhoeddi barddoniaeth Gwynn Jines a Willams Parry, chwedlau Tegla Davies, a beiniadaeth “Y Llenor"? Creadigaeth yr ugeinfed ganrif oedd y Ddrama Gymreig, ac os oedd yn hawdd canfod ynddi rai o ffaeleddau ieuenctid, nid oedd ambeuaeth Lad oedd wedi gafael yn dyn yn serchiadau'r wlad—y ddrama wedi cymeryd lle'r gyngerdd a'r ddariith i fesur helaeth: iawn, a miloedd yn clywed parablu'r Gymraeg drwy'r cyfrwng yma na fuasent byth yn gwrando arti'n liefaru drwy unrhyw gyfrwng arall.

Yr oedd yn hollol amlwg, o leiaf yn y Gogledd, fod yr eisteddfod leol, cefn a syifaen yr Eisteddfod genedlaethol, mor boblogaidd ag erioed: cyrchai'r torfeydd i leoedd anhygyrch, megys Pentre Foelas, i gynnal yr uchel wyliau hyn, a rhwyddheid y ffordd yn fawr gan y ffaith fod y motor erbyn hyn mor gyffredin yn ardaloedd gwledig Cymru.

Ond arwyddocâd y pethau hyn oedd fod adfywiad ar y Gymraeg ymhlith arweinwyr y genedl y dosbarth darllengar a deallus, y dosbarth allai brynu llyfrau a mynychu cyfarfodydd. Y cwestiwn yr oedd yn rhaid ei ateb cyn medru ymdawelu gyda golwg ar dynged yr iaith, oedd-a welid arwyddion ei bod yn llacio ei gafael ar werin y wlad,

« PredošláPokračovať »