Obrázky na stránke
PDF
ePub
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors]
[merged small][subsumed][ocr errors][subsumed]

xi. Y PARCH. D. TECWYN EVANS, B.A.

xii. Y PARCH. W. A. LEWIS

xiii. MISS GWENAN JONES, M.A., PH.D.

Xiv, Y PARCH. H. Elfed LewIS, M.A. (Archdderwydd)

CADWRAETH YR IAITH.

Anerchiadau a draddodwyd yng nghyfarfodydd Adran Gymmrodorol yr Eisteddfod Genedlaethol (1925) ym Mhwllheli.

YN gymaint â bod Pwyllgor Adrannol o dan lywyddiaeth y Gwir Barchedig Dr. John Owen, Esgob Tyddewi, wedi ei benodi i wneud ymchwiliad i safle bresennol yr iaith Gymraeg, barnodd Cyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion mai diddorol yn gystal a buddiol fyddai cael trafodaeth gyffredinol ar gwestiwn yr Iaith, yng nghyfarfodydd Adran Gymmrodorol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli (1925), a gofynnwyd i'r Parchedig Ddoctor G. Hartwell Jones i baratoi Anerchiad helaeth i agor y pwnc. Cynhaliwyd dau gyfarfod yn neuadd Capel Penlan, y naill o dan lywyddiaeth Doctor O. Wynne Griffith, Maer y Dre, a'r llall (yn absenoldeb y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, O.M., A.S.) o dan arweiniad y Prif-Athro Maurice Jones, M.A., D.D., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i drin y mater, pryd y derbyniwyd yr ysgrifau a'r anerchiadau a gynwysir yn y rhan hon o Drafodion y Gymdeithas. Fe welir, wrth eu darllen, fod cryn amrywiaeth barn ymhlith caredigion yr iaith gyda golwg ar y moddion goreu i'w chyfnerthu a'i chadw. I'r diben o sicrhau ystyriaeth bellach i fater sy'n dal cysylltiad agos â'u dyfodol, cyflwyna'r Cyngor yr Adroddiad presennol i sylw eu cydgenedl. Argreffir yr ysgrifau yn orgraff y gwahanol awduron.-V.E.

B

(i) Y. PARCH. G. HARTWELL JONES, M.A., D.D.,

D.LITT.

Rheithor Nutfield, Swydd Surrey.

I rai o'm gwrandawyr efallai'r ymddengys yn rhyfyg ar ran alltud a dreuliodd hanner ei oes y tu draw i Glawdd Offa, i draethu ei feddwl-neu ei fympwy ?-ar destun fel hwn. Yn wir, teimlaf fel math o Eseciel o Fabilon Fawrar-Dafwys yn cymryd arno gynghori'r gweddill a arhosodd yn yr hen wlad. Ond ceir, weithiau, fod alltud mewn sefyllfa weddol dda i farnu anghenion ei gydwladwyr gartref, ac, yn sicr, tuedda alltudiaeth i ddyfnhau serch tuag at ei wlad, i godi awydd i weithio drosti, ac (ys dywed Owen Edwards) "i godi'r hen wlad yn ei hôl”, neu'n hytrach, ei chodi'n uwch nag y bu erioed o'r blaen.

Heblaw hyn, ni raid imi'ch atgoffa i Gymry Llundain, fel Owain Myfyr, Hugh Owen a Syr John Williams afradu'u harian i hyrwyddo llên a buddiannau Cymru Lân. Cymry gwlatgar ac eiddgar Caerludd a gychwynnodd y symudiad i sicrhau i ieuenctid Cymru addysg uwchraddol, a sefydlu Coleg Aberystwyth,-rhagflaenor y Brif-athrofa Genedlaethol. Oddiwrth ddarlith a draddodwyd gerbron Cymdeithas y Cymmrodorion y tarddodd y mudiad ymarferol o blaid y Brifysgol. Ac onid Cymmrodor (sef y Parch. D. Jones Davies, Rheithor Benfleet) a alwodd sylw gyntaf at yr anfantais a ddioddefai plant Cymru trwy gau'r Gymraeg allan o'r ysgolion, ac a awgrymodd foddion i ddirymu'r anghyfiawnder?

Fodd bynnag, er nad ymhonnaf i siarad ag awdurdod, dichon y gallaf weithredu fel carreg hogi (fel y dywed bardd Rhufeinig: "Fungar vice cotis "), a thaflu pelydr o oleuni ar y pwnc o dan sylw.

Nid wyf yn disgwyl boddhau pawb. Dyma destun, yn anad un, rhydd i bob un ei farn arno, a lle bydd o leiaf

ddau ddelfryd yn ymdaro. Deil y selotiaid, yn gydwybodol ddigon, y dylid gorfodi'r Gymraeg ar bawb yn ddiwahan, yn Saeson ac yn Gymry. Yn y gwersyll gyferbyn saif gelynion parod i Gymru a Chymraeg, ac ambell Ddic Sion Dafydd fel cynghreiriaid iddynt. Dyma'r bobl a ymserchant ym mhob gwlad namyn eu gwlad eu hunain, ac a fynnant sathru dan draed y clawdd terfyn rhwng Cymru a Lloegr, a'i wneuthur yn gydwastad â'r llawr. Taerant y dylid amcanu at gyfundrefn unffurf a'i chanolbwynt yn Llundain, yn yr un modd ag y cŷd-unir yr holl awenau Ffrengig ym Mharis.

Pleidia ereill (a minnau yn eu plith) yr egwyddor laissez faire, a nodweddai addysg ym Mhrydain er cyn côf. Dyma'r egwyddor sydd fwyaf cydnaws â'r dymer Brydeinig, h.y. sicrhau i bob cenedl yn y deyrnas hawl i weithredu yn ei chylch ac yn ei ffordd ei hun. Mynnwn nad yw'n bosibl ddirdynnu pob rhan ar yr un gyfundrefn anystwyth, haiarnaidd, neu megis ar yr un arteithglwyd,—fel gwely Procrustes, y lleidr penffordd o goffadwriaeth annedwydd yng Ngroeg gynt,—heb niweidio'r person unigol, y genedl a'r ymerodraeth.

I.

Ymholwn yn gyntaf, a yw'r Gymraeg yn werth ei chadw?

(a)

Ydyw, meddaf; yn un peth, am fod yr iaith yn hanfodol i genedlaetholdeb. Rhoddwyd ambell ddarnodiad, cyn hyn, o genedlaetholdeb, yn pwysleisio un agwedd neu arall arno. O bob disgrifiad, ymddengys barn Stuart Mill y mwyaf boddhaol i mi. Medd ef: "Gellir dywedyd am ran o'r hil ddynol, eu bod yn cyfansoddi cenedlaetholdeb, os yr unir hwy â chydymdeimlad cyffredin nad yw'n bodoli rhyngddynt ag eraill, a bair eu bod yn cydweith

redu â'u gilydd yn fwy bodlon na chyda phobl eraill, yn dymuno bod o dan yr un lywodraeth, ac yn dymuno eu llywodraethu eu hunain fel cyfangorff arbennig . . Weithiau y mae'r teimlad hwn o genedlaetholdeb yn effaith undod mewn hil a tharddiad; cyfnerthir ef yn fawr pan siaredir yr un iaith, ac y derbynnir yr un grefydd ".1 Sylwch ar y prif elfennau :-Cydymdeimlad a bair i'r aelodau gyd-weithio i amcan cyffredin, megis amddiffyn eu rhyddid; yn nesaf, ymwybyddiaeth o'u haniad o un cyff; yn drydydd, iaith gyffredin, ac yn bedwerydd un grefydd, fel Cristionogaeth. Cyd-rhyngddynt ffurfiant yr hyn a ellir ei alw yn enaid cenedl. Onid yw hwn yn ddarlun lled gywir o Gymru, er gwaethaf yr holl amrywiaethau allanol, a'r ymraniadau a fu'n ei rhwygo o bryd i bryd?

Na frysied neb i ddinistrio iaith cenedl; oblegid wrth ddinistrio iaith, dinistriwch gymeriad cenedl. Iaith sydd yn mynegi ei henaid ac yn datgan ei dyheadau. Iaith yw'r ddolen gydiol rhwng y gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Iaith fydd yn cadw'i henaid yn fyw ac yn ei drosglwyddo i genedlaethau sydd eto i ddyfod. Tyf iaith gyda'r genedl, ac y mae'n amlwg mai'r iaith a dyf gyda'r genedl yw'r fwyaf addas i'w pheiriannau lleisiol,—y fwyaf ddisgrifiadol o'i hansawdd, ei chyfansoddiad a'i moes,y fwyaf cymwys i ddatgan ei syniadau'n naturiol ac effeithiol.

Ymhellach, gyda rhediad amser, â'r genedl yn mynd rhagddi, gan ymddatblygu ac ymnewid, gwna'r iaith ei rhan i'w moldio, i osod arni liw a llun gwahaniaethol. Trwy sianeli iaith y rhêd y bywyd cenedlaethol. Iaith rydd lais i'w barddoniaeth, y hi gofnoda'i hanes, ac a fynega ddyfnderoedd ei hysbryd.

1 Y Geninen, Mai (1925),

« PredošláPokračovať »