Obrázky na stránke
PDF
ePub

Gymraeg-heb gofio enwau fel Rhys ac Edwards. Codir y gwahanol awdurdodau gwladol a fyn y cyfrifon a'r adroddiadau yn Saesneg. Ond i ba beth y pentyrrir? Pobl mewn oed a gyfyd y bwganod hyn oll. Aeth llawer o Gymry'n rhy hen i gredu'n ddiysgog y gall Cymro sefyll fel Cymro. Mae gwenwyn 1870 wedi parlysu meddwl miloedd o Gymry fel na allant byth mwy obeithio fel Cymry. Ni all llawer o'r ddau ddosbarth a ennwyd wneuthur llawer mwy na phlethu eu dwylo i gysgu ar fater cadwraeth yr iaith, neu ddal i broffwydo marwolaeth yr iaith ymhen hyn a hyn o flynyddoedd―gan gadw'r un rhif am flynyddoedd heb leihau! Iddynt hwy y mae'r hyn yw meddwl Cymru yn ddrws clo. Fe daerant eu serch i'r iaith, ond digon prin y gwariant geiniog ar lyfr er estyn hynny o nerth iddi i fyw. Mae'r cymorth a ry'r dosbarthiadau hyn—a hwy ydyw mwyafrif mawr aelodau'r Cymdeithasau Cymraeg a'r Cymdeithasau Cymrodorion-i lenyddiaeth Gymraeg drwy brynu llyfrau yn waradwyddus o fach.

Ond fe erys—yn eu herbyn oll, ac yn aml er eu gwaethaf i gyd—ieuenctid a phlant Cymru. Yma y mae gobaith y genedl a'i hiaith a'i bywyd. Eiddynt hwy yw'r dyfodol. Rhodder iddynt dragwyddol heol. Nid gwaith undydd unnos fydd hynny. Fe fynnodd yr iaith fyw drwy gyfnodau tywyllach nag sy drosti heddiw. Caffed hi'r dyddiau hyn, er ein gwaethaf ac ar ein gorau ni oll, gynhesrwydd a dygnwch bywyd ieuenctid Cymru.

(vii) YR ATHRO ERNEST HUGHES, M.A.,
Coleg y Brifysgol, Abertawe.

Mae'n debig bod mwy o ysgrifennu a darllen ar y Gymraeg heddiw nag a fu erioed. Ar yr un pryd mae'n rhaid cydnabod bod yr iaith Gymraeg yn prysur golli

tir fel cyfrwng naturiol cyfathrach corff y werin yng Nghymru. Credwn, oni bydd i werin Cymru gael gweledigaeth newydd ar ystyr a gwerth yr etifeddiaeth Gymreig a ddaeth iddi, y bydd dyddiau'r iaith Gymraeg wedi eu rhifo cyn bo hir. Gwyddom i'r math hwn ar ddarogan fod yn gyffredin yng Nghymru er ys pedwar can mlynedd bellach-ac eto heb ei wirio. Eithr y mae amgylchiadau y ddyddiau presennol yn rhoddi grym newydd yn yr hen ddarogan. Esgeulustra'r bendefigaeth Gymraeg, â'r dosbarth swyddogol yng Nghymru, o iaith a thraddodiadau'r genedl a barodd ddechreu darogan. Ond ymgymerodd gwerin gwlad a'r cyfrifoldeb o gadw a throsglwyddo'r etifeddiaeth Gymreig. Heddiw y mae gwerin Cymru yn ymysgwyd o'r cyfrifoldeb hwnnw, ac o chyll y werin ei Chymreigrwydd nid oes yn aros neb i ymgeleddu iaith a thraddodiadau ein cenedl. Nid yw colli'r iaith ond yr arwydd amlycaf o'r cyfnewidiad mawr a ddaeth dros Gymru-dros y byd i gyd o ran hynny―yn yr oes ddiweddaf hon, y cyfnod mwyaf chwildroadol yn hanes cymdeithasol y byd gwareiddiedig. Cyfnewidiodd y datblygiad diwydiannol a masnachol safbwynt, ac hyd yn oed sylfeini, bywyd yng ngwledydd Gorllewin Ewrob. Ni fu yng Nghymru unrhyw baratoad ar gyfer y cyfnewidiadau hyn. Daeth y dylanwadau newydd i'r wlad, megis pethau hollol ddieithr yn nwylo estroniaid, a meddianwyd hi gan ysbryd y byd o'r tu allan. Eithr daeth y Cymry yn fuan i sylweddoli gwerth y cyfleusterau newydd i ennill y byd, a hynny ar wahan i unrhyw gysylltiad a'u traddodiadau cynhenid. Yn yr ymgais i fanteisio ar y cyfleusterau hyn cododd ynddynt y duedd i gredu bod Cymreigrwydd yn ddiangheniaid ac hyd yn oed yn rhwystr i lwyddiant tymhorol. O ganlyniad, dirywiodd y teimlad Cymreig, ac nid yw yn ormod dweyd bod gwerin Cymru heddiw yn prysur fyned yn gymaint o ddieithriaid

yng ngwlad eu tadau, yn hanfodol felly, a phroffwydi cyntaf y mudiadau diweddar ym myd masnach a diwydiant.

Ffrwyth y mudiadau hyn ydyw cynnydd nodedig y canolfannau poblog, a chryuhoi'r trigolion yn y cymoedd. gweithfaol. Ond nid yw'r diwylliant traddodiadol Cymreig hyd yn hyn wedi arddangos y gallu i ymgyfaddasu a chymhwyso ei hun at amgylchiadau y bywyd trefol a dinesig. Erys yn diwylliant y tyddyn â'r fro. Ar waethaf dylifiad estroniaid i Ddeheudir Cymru yn y can mlynedd diweddaf Cymry o'u haniad ydyw mwyafrif mawr preswylwyr trefi a chymoedd poblog y Deheudir. Ond yn y cylchoedd hyn, oherwydd y diffyg a nodwyd, collant yn gyflym eu hiaith a'u hymdeimlad o Gymreigrwydd.

Am gryn amser bu Anghydffurfiaeth Cymru yn wrthglawdd grymus i ddiogelu iaith, ac hefyd, i raddau, draddodiadau'r genedl, ond erbyn hyn y mae traddodiadau Anghydffurfiaeth ei hun yn ddirym ar aelwydydd Cymru.

Yn ffodus iawn y mae mudiad newydd y Ddrama Gymraeg, sydd heddiw mewn bri mawr yn yr ardaloedd gweith faol, yn arddangos gallu i ddenu'r ieuenctid i ymarfer a'r heniaith. Dywedir fod yng Nghymru yn agos i ddau gant o gwmniau drama. Golyga hyn fod llu mawr o feibion a merched ieuaine yn ymgydnabyddu a'r iaith Gymraeg ac a llawer agwedd ar fywyd Cymru na pherthyn i'w profiad hwy na'u cenhedlaeth.

Credwn mai'r hyn sydd yn anhepgor i gadw'r iaith ydyw adfywio, ac hyd yn oed gynhyrchu o newydd, y teimlad Cymreig, trwy beri i ieuenctid Cymru sylweddoli ystyr a gwerth yr etifeddiaeth Gymreig a ddaeth i ni fel traddodiad yn ymestyn yn ol dros bymtheg cant o flynyddoedd. Ar wahan i'r pethau hyn ofer a difudd ydyw pob ymdrech i gadw'r Gymraeg. Mae'n ofynnol i sefydliadau addysg ein gwlad, o bob gradd, dalu mwy o sylw i hanes Cymru ac i

draddodiadau'r genedl fel y'u cedwir yn llên a rhamant Cymru. Os llwyddir felly i gynhyrchu yn y genhedlaeth sy'n codi gynhesrwydd tuag at bethau Cymreig, ac ymdeimlad o'u rhagoriaeth, hwylusir yn ddirfawr y gwaith o ddysgu'r iaith. Gorchwyl anodd a diddiolch ydyw gorfodi i blant ddysgu iaith sydd yn ddieithr iddynt ar wahan i unrhyw ymdeimlad o serch tuag at y pethau a drysorir ynddi ac a drosglwyddir trwyddi.

Rhaid sicrhau cyd-ddealltwriaeth a chydweithrediad rhwng yr ysgol a'r aelwyd fel amod llwyddiant yr ymdrech i ddiogelu'r Gymraeg Am genedlaethau lawer bu'r ysgol a'r cartref mewn ymryson dibaid ar gwestiwn y Gymraeg; ac ni ddichon neb fesur effeithiau niweidiol yr ysgariad rhyngddynt ar fywyd y genedl. Pe llwyddid i gael y ddau sefydliad grymusaf eu gallu i lunio'r dyfodol yn unfarn ac o ddifrif o blaid Cymreigrwydd a Chymraeg, nid breuddwyd gwag mwyach fyddai Cymru Fydd.

(viii) MR. E. MORGAN HUMPHREYS.

Golygydd Y Genedl", Caernarfon.

Cofiaf y diweddar W. H. Williams, ysgrifennydd Undeb y Chwarelwyr, yn siarad am yr Ysgol Sul rhyw dro. Yr oedd ymgyrch newydd wedi ei gychwyn o'i phlaid, ac yr oedd rhywun wedi anfon at swyddogion eglwysig i ofyn iddynt annog pobl i fyned i'r Ysgol Sul. "Ond ", meddai Mr. Williams, "os ydi pobl wedi colli diddordeb ynddi hi, fyddwch chi ddim haws 'tasech chi'n annog i dragwyddoldeb!" W. H. Williams oedd un o'r dynion doethaf a gyfarfum i erioed.

Y mae'r peth oedd yn wir am yr Ysgol Sul yn wir hefyd am yr iaith Gymraeg. Os collodd pobl ddiddordeb ynddi a wna, ni waeth i ni faint o bwyllgorau nac o

marw

gynhadleddau nac o gymdeithasau a gynhelir. Y peth gwirioneddol ddifrifol ynglyn a safle'r iaith heddiw ydyw, nid dylifiad Saeson i Gymru, nid swyn y lledaenu, nid apel y llyfrau a'r papurau Seisnig, nid ambell i Bwyllgor Addysg hyd yn oed, ond fod ei phobl hi ei hun yn colli diddordeb ynddi. O gyfeiriad y werin y mae'r perygl heddiw. Ymhlith y werin y bu ei noddfa yn hir, a bu hynny yn fantais ac yn anfantais iddi, ond hwy erbyn hyn yw y rhai cyntaf i'w bradychu a'i gadael.

Ni wnaf ond crybwyll un feddyginiaeth a ymddengys i mi yn bosibl. Un rheswm am y colli diddordeb yma ydyw anwybodaeth, anwybodaeth am brydferthwch yr iaith, am ei hystwythder a'i hadnoddau, am ei hanes ac am ei llenyddiaeth. Ni all na choleg nac ysgol symud yr anwybodaeth yma yn llwyr. Y mae'n rhaid gwneuthur rhywbeth tebyg i'r hyn a wnaeth y Gaelic League yn Iwerddon, neu yr hyn a wnaeth Syr Horace Plunkett yn yr un wlad pan yn cychwyn ei fudiad o blaid cydweithrediad amaethyddol. Clywais Syr Horace yn dywedyd ei fod am flynyddoedd wedi bod yn teithio ymhell i siarad mewn ysgoldai gwledig, anghysbell, a chael wedi'r daith na byddai yno neb yn gwrando arno ond yr offeriad a'r ysgolfeistr ac, efallai, gyriedydd ei gerbyd, os na byddai'n well gan hwnnw'r dafarn agosaf. Y mae'n rhaid i ninnau wneud rhywbeth tebyg. Y mae'n rhaid myned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, a siarad a dadleu ar gonglau'r heolydd yn yr ardaloedd lle mae'r iaith mewn perygl. Rhaid dysgu pobl anwybodus-a difater am eu bod yn anwybodus-am brydferthwch a gwerth y trysor sydd ar lithro o'u dwylaw, a thrwy ffolineb pregethu" adfer y trysor hwnnw eto. Hwyrach y gallai rhai o efrydwyr y colegau drefnu ymgyrchoedd fel hyn yn ystod eu gwyliau. A dywedyd y lleiaf, buasai'n creu rhyw symudiad ac yn ennyn rhyw ddiddordeb. A phe llwyddid i gael dau neu dri ymhob ardal i deimlo fod yr iaith yn

66

« PredošláPokračovať »