Obrázky na stránke
PDF
ePub

wifrau? Cyflym y treiddia hon eto i bob rhan o Gymru, ac anghyffredin yw'r diddordeb a gymerir ynddi. Y mae gan y Saeson eisoes bapurau wythnosol yn ymwneuthur â'r ddyfais hon yn unig. Nid oes gymaint a cholofn i'r teliffon di-wifrau mewn papur Cymraeg, a'r diffyg geiriau yw'r prif faen tramgwydd.

Nid oes eiriau eto i son am faterion byd amlweddog diwydiant a chyllid etc. Nid yw materion o'r fath wedi cael y sylw a haeddent yn y Wasg Gymraeg am y rheswm hwn. Ni ellir egluro problemau diwydiant a chyllid ar hyn o bryd yn Gymraeg, yn foddhaol, ac y mae hynny'n arw iawn o beth. Pa mor annymunol bynnag i anian y Cymro yw anghenfil mawr diwydiant, tebig yw y bydd raid iddo gydfod ag ef am genedlaethau eto, a thra byddo diwydiant yn y byd o gwbl, hyd yn oed, ni eill y Cymro goleuedig fforddio ei anwybyddu.

III.

Efallai y dyfyd rhywrai mai ffordd beiriannol ac arwynebol a awgrymaf at wneuthur y Gymraeg yn iaith bob dydd groyw. Hyn a wn-bod llaweroedd o eiriau gwneuthur y Wasg Gymraeg wedi myned yn ddiogel i eirfa lafar y Cymry, megis "isrif cyflog" a'r adfydus ymadrodd hwnnw cymeryd lle". A gellir dadlu mai geiriau gwneuthur yw pob gair ymhob iaith. Ni welaf i reswm paham na ddylai'r dull hwn lwyddo.

66

Ac wrth ddibennu, mi hoffwn awgrymu i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, weini un gymwynas yn rhagor i Gymru, drwy benodi pwyllgor o ieithyddion cydnabyddedig i lunio geiriau i son am y pethau a grybwyllais, a phethau eraill cyffelyb, ac i bara i lunio geiriau fel y bo'r galw o hyd; a chyhoeddi'r geiriau newydd yn y "Cofnodion" neu mewn pamffled cyfnodol arbennig, ac apelio at olygydd pob papur a chylchgrawn

Cymraeg i ddefnyddio'r geiriau hynny. Credaf y byddai hynyna'n wasanaeth pwysig iawn at gadw'r Gymraeg.

(xi) PARCH. D. TECWYN EVANS, B.A., Bangor.

A chymryd golwg mor ddiragfarn ag y medrom ar y sefyllfa heddyw, credwn ei bod yn ddifrifol, er ei bod ymhell o fod yn anobeithiol. Y mae ambell un fel pe'n ymhyfrydu mewn honni bod y sefyllfa'n ddifrifol; ond nyn eraill ohonom, sy'n mawr ddymuno hirhoed ledd yr iaith, er ein gofid dwys, mai felly y mae, yn enwedig mewn rhai rhannau,—er enghraifft, y mân drefi yn Sir Fflint a rhai ardaloedd ym Morgannwg. Y mae'n amheus (a dywedyd y lleiaf) gennym a oes cymaint o Gymraeg yn y lleoedd a nodwyd ag a oedd, dyweder ugain mlynedd yn ol. Wrth reswm, a chofio popeth, y mae bod yr iaith

yn fyw o gwbl yn rhamant a rhyfeddod. Dywedodd Gwyddel dysgedig wrth ysgrifennydd y geiriau hyn, ychydig fisoedd yn ol, na wyddai ef am ryfeddod cyfartal yn Ewrob oll i hirhoedledd y Gymraeg.

Ond fe ddylai fod yn llawer mwy byw hyd yn oed nag y mae. Hyd y gwelwn ni, y perigl mwyaf heddyw yw i'r werin wadu'r iaith trwy beidio â'i harfer a'i darllen. Ryw ddeng mlynedd ar hugain yn ol, glynai'r werin-bobl yn dyn wrth y Gymraeg ond tuedd y bobl ddysgedig a'u plant yr adeg honno oedd siarad Saesneg. Heddyw, yng nghwrthwyneb i bethau fel yr oeddynt tua'r cyfnod a enwyd, y mae'r Cymry dysgedig a diwylliedig, at ei gilydd, yn siarad Cymraeg, ond y werin gymharol ddi-ddysg yn troi eu cefnau arni. Cysur yw cofio nad yw hynny'n wir am bedair neu bump o'r siroedd, ond yn ddiamau dyna'r gwir am y gweddill o'r wlad. Diffyg argyhoeddiadd o werth yr iaith sy'n cyfrif am hyn, a diffyg diwylliant. Canys, ar wahân i genedlaetholdeb, yr ydys yn barod iawn

i ddadleu y dylid cadw'r iaith yn fyw o safle diwylliant yn unig. Y mae miloedd yng Nghymru heddyw nad ydynt yu ddigon meddylgar a diwylliedig i wybod y gallant weled mwy trwy ddwy ffenestr nag a welant trwy ddim oud un!

Nid yw'n rhy ddiweddar i waredu'r Gymraeg rhag tranc. Rhoir llawer awgrym a chynllun ger ein bron of dro i dro, a da ydynt oll bron. Pwysleisir ar y cartref, yr ysgolion dydd, y colegau, yr ysgolion Sul, yr Eglwysi, ac felly ymlaen. A dyma ddau awgrym neu dri arall y byddai gweithredu yn unol â hwynt yn gryn help, fe gredwn-(a) Defnyddio'r "darluniau byw " i'r pwrpas hwn-eu troi'n Gymry fo'n siarad Cymraeg. Er gwell neu er gwaeth, y mae'r darluniau byw wedi "dyfod i aros" (chwedl y Saeson). Fe'u mynychir gan gannoedd bob wythnos yn ein mân drefi, a phe gwelai pobl y Gymraeg beunydd beunos ar y llenni, fe fyddai hynny'n gryn help. (b) Da hefyd fyddai dal ar bob cyfle i wneuthur i'r lledaenydd di-wifr siarad y firain gain Gymraeg. (c) Ac y mae'n amhosibl gorbrisio dylanwad y Ddrama Gymraeg o blaid parhad yr iaith. O'n rhan ni credwn y byddai'r sefyllfa'n anobeithiol mewn rhai parthau erbyn hyn, oni bai am yr help a gafodd yr iaith oddiwrth y Ddrama.

Cofiwn mai rhyw ffyn baglau yw'r pethau hyn oll, ond da eu cael hyd oni ddeffry ymhob Cymro a Chymraes fwy o hunan-barch cenedlaethol, a mwy o werthfawrogiad goleuedig o'n hiaith a'n llenyddiaeth, ein hanes a'n diwylliant cenedlaethol.

(xii) Y PARCH. W. A. LEWIS, Lerpwl.

Yr ym i gyd, mi dybiaf, yn hawlio ein bod yn Gymry gwlatgar, yn hoff o'r Gymraeg, ac yn dymuno "oes y byd" iddi, onide ni welid ni mewn cyfarfod fel hwn.

Cytunwn, hefyd, fod yr iaith yn un gwerth ei choledd, ac yn werth ymdrech ac aberth i gadw anadl einioes yn ei ffroenau. Yr ydym yma, nid i gŵynfan uwchben ei chyflwr, nac i feio'r tadau am eu golwg byr, llawer llai i ddal y Sais yn gyfrifol am sefyllfa'r Gymraeg heddyw, fel y gwneir yn barhaus mewn rhai cylchoedd. Cydnabyddwn yn llawn a pharod, i'r Sais, a'r Cymro'i hun, wneuthur camgymeriadau dybryd yn eu hymddygiad at yr iaith, yn yr amser a fu; ond yr ydym yma, i geisio goleuni ar ein llwybr yn y dyfodol, pa fodd yr ymgeleddwn yr iaith, a rhoddi estyniad einioes iddi hi.

Credaf fod anfarwoldeb y Gymraeg fel iaith lên yn ddiogel, ac nad oes angen pryderu dim yn ei chylch, diolch i frwdfrydedd, ymdrechion ac ysgolheictod y blynyddoedd diweddaf hyn. Ond am ei pharhad fel iaith lafar, ni allwn lai na phryderu weithiau. Cydymdeimlem yn fawr â sylw'r diweddar Mr. W. Llewelyn Williams, yug nghyfarfod y Cymmrodorion yng Nghaernarfon, bedair blynedd yn ol. Ar ol gwrando'r athrawon yn trafod y rhaglen oedd o flaen Bwrdd newydd yr Efrydiau Celtaidd, ebr ef, "Yr ydych yn cyflawni llawer o waith, yn ymgeleddu ac yn coethi'r iaith, yn treulio amser gwerthfawr ymysg pentyrrau o hen lawysgrifau llychlyd, yn troi allan weithiau clasurol ac ysgolheigaidd, a'r Gymraeg ei hun yn marw o gwmpas eich traed". A'r pwnc dyrys o hyd yw, pa fodd i gadw'r Gymraeg yn iaith fyw? Ni thybiaf y gellir tynnu allan unrhyw reol arbennig er diogelu'r iaith, ac nad all un meddyg osod ei fys ar set o gyfarwyddiadau, a dywedyd, "dyma'r feddyginiaeth anffaeledig". Nid yr un cynllun a wna'r tro ymhob man, ac o dan bob amgylchiad. Yr hyn sydd eisiau, yn flaenaf ac yn bennaf, ydyw meithrin ysbryd Cymreig,-cael hyd i ryw foddion i gynhyrchu barn gyhoeddus iach a chref, o berthynas i werth cynhenid yr iaith, a chreu awyrgylch

ffafriol i'w thyfiant. I sicrhau hyn y mae'n ofynol i rywrai fod yn effro'n barhaus, ac yn fyw i bob symudiad a dylanwad.

Dylid manteisio ar bob cyfle i roddi ei lle dyladwy i'r iaith, mewn cynulliadau cyhoeddus o bob math, mewn athrofa ac ysgol, yn yr addoldy ac yn y cartref. Nid wyf yn credu rhyw lawer mewn gorfodi;-y mae gorfodaeth bob amser yn groes i'r graen. Y mae'n wir y rhaid wrth ryw gymaint o orfodaeth,-digon i gadw disgyblaeth mewn ysgol a chartref. Ond goreu po leiaf o son a wneir am orfodi, mewn unrhyw gylch. Os am ddysgu'r plentyn i gashau'r Gymraeg, gorfodwch ef i'w siarad hi, wrth flaen y wialen, fel yr ymffrostiai un gŵr parchedig y dydd o'r blaen, ger bron y pwyllgor sy'n chwilio i mewn i safle'r Gymraeg yn y gyfundrefn addysg-ei fod ef yn gwneuthur. Yn sier ddigon, nid dyna'r ffordd i gael y goreu allan o neb,-eu gorfodi'n groes i'w hewyllys. Gwell gennyf fi, a gwell gan bawb, mi dybiaf, ydyw byw o dan Ras, na byw o dan Ddeddf. Nid gorfodi plentyn, eithr ei ddenu; ennill ei galon a'i ewyllys. Nid gwiw cau llygaid ar ffeithiau. Y mae Cymru-er gwell neu er gwaeth-yn wlad ddwy-ieithog, a dyna raid iddi fod bellach. Os y gwelir hi byth eto yn wlad un-ieithog.-nid y Gymraeg fydd lleferydd ei thrigolion hi. 'Doedd hi'n gamp yn y byd i gadw iaith gynhenid y wlad ar wefusau plant y werin, pan na wyddent yr un iaith arall. Ond daeth tro ar fyd,―dyma ddwy iaith at eu galwad, ac un ohonynt yn apelio'n gref at dueddiadau materol yr oes. Y mae'n demtasiwn i'r llanc a'r feinir i fabwysiadu'r iaith sy'n addo eu cynorthwyo i "ddod ymlaen yn y byd”,—iaith bara a chaws, a mwy na gallu ysgol na chartref ei orfodi i ddefnyddio'r Gymraeg, unwaith y bo'r plentyn yn dechreu cerdded ei lwybr ei hun. Na, ni cheidw gorfodaeth mo'r iaith yn fyw. Os yw'r tô sy'n codi i dyfu'n

« PredošláPokračovať »