Obrázky na stránke
PDF
ePub

medrus. Dysger iddynt ganeuon gwerin, ac adrodder wrthynt hanes rhai o arwyr y genedl. Mewn gair, ymdrecher ennyn eu diddordeb fel Cymry bach, yn y pethau sydd a fynnont â bywyd y genedl yn gyffredinol.

Y mae gennym fisolion i'r plant, heddyw, ag y buasai'n anodd cael eu gwell. Ni ddylai aelwyd, lle y mae plant, fod yn amddifad o'r rhai hyn. Ac o'r holl gymdeithasau

a

mudiadau sydd yng Nghymru heddyw, mentraf ddywedyd, mai'r mudiad goreu o ddigon, o safbwynt "cadw'r iaith", ydyw "Urdd Gobaith Cymru Fach", a sefydlwyd gan y cyfaill ieuane Cymroaidd, Mr. Ifan ab Owen Edwards, a dylai aelwydydd Cymru ei gefnogi'n selog a chalonnog, os am weld y Gymraeg yn adnewyddu ei nerth. Plant Cymru yw'r aelodau, a Chymru'r Plant ydyw'r cyfrwng i glymu'r aelodau wrth ei gilydd. Y mae eisoes yn agos i dair mil o aelodau yn perthyn iddi, a phob un wedi ymrwymo i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Gwn, fel mater o ffaith, fod ei dylanwad yn fawr ac yn gynhyddol. Denir yr aelodau i ddarllen y misolyn, ac i ohebu â'i gilydd yn iaith yr Urdd. Cefais y fraint o ddarllen llawer o'r llythyrau hyn,―llythyrau rhwng plant Gogledd a De, Lloegr a Chymru, rhai heb erioed weld ei gilydd, ond yn cymryd diddordeb byw yn naill y llall fel cydaelodau o Urdd Gobaith Cymru Fach. Ac fe synnech at loywder eu Cymraeg, a'r ysbryd Cymreig a arddangosir ynddynt. Fy marn i yw, fod Golygydd Cymru'r Plant, yn gwneuthur mwy at gadw'r Gymraeg yn fyw, fel iaith lafar, na phob cynllun a chymdeithas arall gyda'i gilydd, a dengys y llwybr inni gerdded, os yw'r iaith i ffynnu yng nghalon ac ar wefus trigolion gwlad y bryniau. Gofaled rhieni am gael eu plant i ymuno â'r Urdd hon, ac i yfed o'i hysbryd hi.

Cadwer y Gymraeg yn iaith yr Eisteddfod, ac yn iaith ein cynadleddau a'n cyrddau cyhoeddus o bob math, a

boed i wŷr dysgedig ein cenedl fynd ati gyda mwy o asbri nag erioed, i ysgrifennu llyfrau a ddarllenir ac a fwynheir gan y plant a'r ieuenctid, fel ag i'w denu i ddarllen Cymraeg gan swyn a hud y llyfrau. Ond, meddaf eto, er pob ymdrech yn y cyfeiriadau hyn, ac er ceisio am hawliau a deddfau newydd, teilwng o'n safle fel cenedl, y mae dyfodol yr iaith, fel iaith lafar bob dydd, yn gorffwys ar dri pheth,-yr ysgol, yr addoldy, a'r cartref; y tri hyn, a'r mwyaf o'i rhai hyn yw y cartref.

(xiii) MISS GWENAN JONES, M.A., Ph.D.
Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.

Diddorol o beth a fyddai ymchwiliad gofalus i hanes yr ymdrechion a wnaed o'r ddeuddegfed ganrif hyd heddyw i gadw'r iaith. Byddai'n dda cael gwybod ar ba adegau ac am ba achosion y bu'r dasg galetaf; pa fath wŷr a weithiodd ddycnaf, ac i ba amcanion arbennig; ai y gwaith mwyaf cyhoeddus a fu hefyd y mwyaf effeithiol. Dylem ddarganfod pwy oedd y Dic-Shon-Dafyddion drwy gydol y blynyddau, a pha gymell a fu arnynt gan fydolrwydd neu snobeidd-dra cymdeithasol neu swyddogol, neu efallai gamfarn onest am ddaioni eu cenedl. Pa wirionedd bynnag a amlygid gan ymchwil o'r fath, fe wneid dwy ffaith yn eglur-i'n cenedl dreulio llawer iawn. o'i hynni erioed yn cadw'r iaith Gymraeg mewn bod; a bod y ddolen rhwng yr iaith a'r genedl yn un gref a bywiol iawn i barhau hyd yn hyn.

Nid oes angen rhyw lawer o ymchwil, ychwaith, i ddangos mai o gariad syml y daeth llawer o'r bywyd a gadwodd y Gymraeg. Dro ar ol tro fe'i collesid, yn ddiameu, onibae i'r bobl ymlynu'n gyndyn wrthi. Hyhi oedd cyfrwng naturiol eu mynegiant; fe'i dysgasent yn blant a gwrthodent ei newid am un arall, ddieithr iddynt hwy a

dienaid. Ac fe'i trysorent hefyd fel arwydd o rywbeth dyfnach, o'u hundeb â'i gilydd ac â'u hynafiaid, o'r berthynas gyfrin rhyngddynt â'u gwlad, y tir a'i hanes a rhywbeth arall ysbrydol, annirnad ymron. Y cariad hwn ydyw trwydded sicraf pobl ac iaith i fod, a'r moddion cryfaf i sicrhau eu parhâd.

Pan fo pobl yn anymwybodol o'r cariad hwn fe weithia'n effeithiol iawn ynddynt, yn rhoddi grym ac osgo i'w gweithredoedd. Ond y mae perygl ynddo pan adnabydder ef. Tuedda i droi'n deimlad arwynebol ac yn wag ymffrost. Ni ddihangwyd rhag y drwg hwn yng Nghymru. Aeth gwladgarwch ac ieithgarwch gan rai dynion yn ffasiwn ac yn rhodres. Eithr wedi iddynt gyffesu eu cariad a'u ffyddlondeb ar dafod, dyna ddiwedd arno. Pan fu raid i'r iaith ymdrechu yn erbyn amser, yn erbyn buddiannau bydol y bobl eu hunain, ni thalai llef-eiriau megis "O! fy hen Gymraeg!" na phroffwydoliaeth "Eu hiaith a gadwant" i'w hachub ddim. Collwyd hi o'r ysgolion elfennol am na cheid tâl y llywodraeth am ei dysgu, ac yr oedd yn rhaid dysgu Saesneg os am dâl o gwbl. Gwthiwyd hi o lawer aelwyd am gredu o'r rhieni y deuai llwyddiant materol yn rhwyddach i'r plant ond iddynt fod yn gartrefol yn eu Saesneg. Erbyn hyn y mae'r ornest yn galetach fyth; i bob golwg y mae'r byd a'r cnawd, busnes a chwarae, yn ymladd yn erbyn yr iaith Gymraeg. Ni allwn fforddio colli'n cariad ati, eithr y mae'n anhepgor inni ddeall yr hyn sydd wrth ei wraidd. Yn arbennig os hawliwn ei lle i'r Gymraeg yn yr ysgolion y mae'n wiw inni fod a rhesymau go bendant dros yr hawl honno.

II.

Y mae'n ddyletswydd ar yr ysgolion i drosglwyddo traddodiad y bobl o un genhedlaeth i'r llall. Maent i gymhwyso'r traddodiad hwnnw at amgylchiadau newyddion,

a'i gyfoethogi drwy ddoniau'r genhedlaeth newydd. Dyma waith mawr yr ysgol. Mae'n wir ei bod i ddatblygu'r person unigol i'w lawn faint a'i baratoi i wneuthur ei waith yn y byd. Ond rhan o'r dasg fawr gymdeithasol ydyw datblygu'r unigol—a thrwy gyflawni'r dasg fwyaf, fe wneir y rhan hefyd.

Dibynna dyn ar gymdeithas am ei fywyd llawn. Rhaid iddo felly ei drwytho ei hun yn arferion cymdeithasol a bywyd meddyliol ac ysbrydol y bobl y mae'n byw yn eu plith. Amrywia'r arferion hyn o le i le; fe geir cryn lawer o unoliaeth a thebygrwydd rhyngddynt mewn cenedl. Yr unoliaeth hwn, yn wir, ydyw prif nodwedd cenedl. Fe enir plentyn i ganol y bywyd cenedlaethol. Fe'i megir yn ysbrydol drwyddo, yn ddiarwybod drwy fywyd y cartref, a'r maes, a'r heol; drwy ei chwaraeon a'i grefydd. Mewn gwlad fel Cymru gall yr ysgol anadlu'r un bywyd, neu gall ei anwybyddu a chreu awyrgylch estronol, neu fod heb awyrgylch nac ysbryd o gwbl. Os dewis y dull olaf, ni fydd yn rhoddi cymorth i'r plentyn fyw yn gymdeithasol o gwbl. Gall yn raddol ei dynnu oddiwrth ei wreiddiau naturiol ei hun, a chreu drygsain annifyr yn ei fywyd. Ar y goreu fe edy iddo'r addysg gymdeithasol a gâ o'r tuallan, ac ymfoddloni ei hunan ar roddi iddo hyfforddiant arwynebol mewn medr llaw a meddwl.

Eithr o bydd i'r ysgol fod yn rhan wirioneddol o'r genedl, fe baratoa'r disgyblion at fywyd cymdeithasol llawn. Fe ddeallant eu gwareiddiad eu hunain, a'i werthfawrogi. Dysgant eu diwyllio eu hunain yn ôl safonau'r gwareiddiad hwnnw. Cloddiant yn ddwfn i'w traddodiad eu hunain; gwelant eu lle ymysg eu cyd-ddynion a etifeddodd yr un traddodiad. Drwy hynny bydd eu bywyd yn gyfoethocach ac yn fwy effeithiol-a hynny hefyd yn yr ystyr faterol.

Y mae ochr arall i'r mater. Er mwyn y gymdeithas,

G

hynny ydyw y genedl, y mae'r ysgolion cenedlaethol. Perthynant i'r bobl, ac y mae'n ddyletswydd arnynt felly wella bywyd y bobl ymhob rhyw fodd. Gwaith mawr yr ysgolion ydyw meithrin y bywyd cymdeithasol: yng Nghymru y maent i gyfoethogi cenedl y Cymry a'u gwareiddiad, ymbob gwedd arnynt. Nid yn ol y rhai a â ymaith o'u hardaloedd a llwyddo yn y byd y mesurir llwyddiant ysgol, ond yn ôl y gwahaniaeth a wna i fywyd yr ardal a wasanaetha. Fe ofynnir iddi ennyn diddordeb yn yr ieuanc ym mywyd yr ardal, yn ei datblygiad economaidd a chymdeithasol, yng ngorffennol y lle a'r bobl, eu traddodiadau a'u hanes, yn yr amgylchoedd, ymhopeth a ychwanega gariad ynddo at y lle a'r bobl, a dymuniad calon am eu lles.

Os yw ysgolion Cymru i wneuthur hyn-ac nis gwnaethant hyd yn hyn-fe'i gwnânt yn unig ar sail traddodiad a diwylliant a doniau ysbrydol y Cymry eu hunain. Tybia hyn roddi lle mawr i hanes Cymru, ei harwyr, a'r rhai a ganodd iddi. Drwy ddychymyg fe fyddis yn byw ei gorffennol, yn ymweled â'i llanerchydd hyfryd, â'i chartrefi enwog. Cenir ei halawon, ac adroddir ei cherddi. Ceisir deall ei bywyd cymdeithasol, a'i phroblemau diwydiannol; astudir ei daear a'r hyn sydd yn byw arni, ac yn yr ysgolion uwchraddol a'r colegau fe gymhwysir gwyddoniaeth faterol a meddyliol at y problemau hyn. Drwy roddi Cymru well yn ganolbwynt gwaith yr ysgol fe ddaw sêl a bywyd i'r gorchwylion yno, a than un fe lunir Cymry gwell.

Beth am yr iaith Gymraeg? A ydyw hi'n angenrheidiol i'r bywyd hwn ddatblygu? Neu a ellir gwareiddiad Cymreig hebddi ?

III.

(1) Yn yr ardaloedd Cymreig ni ellir addysg o gwbl ond drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Od yw plant yn

« PredošláPokračovať »