Obrázky na stránke
PDF
ePub

mlynedd yn ol trwy gael gan yr awdurdodau oddef yr iaith yn yr ysgolion, a'i defnyddio i egluro, er mwyn bod rhyw apêl at feddwl a deall y plant mewn iaith a ddeallent. Ychydig dros ugain mlynedd yn ol mi fûm fy hun, gyda Mr. T. J. Williams a'r diweddar Athro W. Lewis Jones, yn tynnu allan gynllun o addysg ddwy-ieithog ar gyfair ysgolion elfennol Môn ac Arfon; ac fe luniwyd cynlluniau cyffelyb yn siroedd eraill Cymru Gymreig. Pe dilynasid y cynllun hwn yn ffyddlon fe gawsai'r plant addysg drwyadl yn y ddwy iaith; ond nid oedd yr athrawon yn aeddfed, ac y mae arnaf ofn mai amherffaith a hanerog fu'r cais i roi'r cynllun mewn grym. Yr oedd yr athrawon wedi arfer â'r hen gyfundrefn, ac wedi eu hyfforddi yn honno; nid oedd yn hawdd iddynt weithio allan drefn na chawsant fawr o gyfarwyddyd ynddi, ac nad oedd pob un efallai yn sylweddoli ei gwerth a'i phwysigrwydd i'r genedl. Y mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r athrawon; o dan yr hen oruchwyliaeth y'm ganed innau, ac yr wyf wedi arfer cyfrannu gwybodaeth am yr iaith a'i hanes a'i tharddiad trwy gyfrwng y Saesneg. Ond yn y Coleg y mae pawb yn hollol gartrefol yn y ddwy iaith, ac nid wyf yn meddwl bod arfer y ddwy yn amharu dim ar yr addysg a rof yn y Gymraeg; yn hytrach mi gredaf y dysg fy nisgyblion rywbeth am y ddwy. A chenedl ddwy-ieithog y dymunwn i weled cenedl y Cymry. Ond yn yr ysgolion elfennol, y mae'n amlwg bod yn rhaid arfer y Gymraeg yn helaeth fel cyfrwng addysg; ac fe ddylid gwneuthur hynny'n fwy hefyd yn yr ysgolion canol. Ond mwy na hynny, fe ddylid yn yr ysgolion canol a'r Colegau ei defnyddio i gyfieithu'r clasuron iddi yn gystal ag i'r Saesneg, pe gallem gael athrawon â'r cymwysterau i wneuthur hynny. Tybed na ddaw'r amser i gyfundrefn addysg Cymru ein cyuysgaeddu ag athrawon felly? Ond y pwnc mawr yw cyfaddasu'r gyfundrefn i roi addysg drwyadl yn yr iaith Gymraeg a'i

llên, yn gystal ag yn yr iaith Saesneg, o'r ysgol fabanod i fyny, a magu cenhedlaeth a fedr werthfawrogi'r etifeddiaeth a drosglwyddodd ein tadau i ni ynddi. Addysg ynddi a ddengys ei gwerth; a phan sylweddolo'r genedl ei gwerth nid cywilyddio o'i phlegid a wnânt, ond ymfalchio ynddi; ac yna ni bydd raid i neb ofni am ei pharhad. Nid wyf yn meddwl fy hun ei fod o'r pwys mwyaf i ni gael termau ynddi, fel yr awgrymir, am bob dyfeisiau gwyddonol a chwaraeon; fe fydd byw os cysegrir hi i drafod pethau cyffredin bywyd, a'r materion uchel y bu hi'n gyfrwng i'w trin mewn rhyddiaith a chân ar hyd yr oesoedd.

(iii) ParCH J. O. WILLIAMS (Pedrog) M.A., Lerpwl Dirprwy Archdderwydd Gorsedd y Beirdd.

Yn ei anerchaid agoriadol, teimlwn fod Syr John Morris-Jones yn cyfleu y mater yn gwbl deg, a'i egluro yn ei foncyff a'i ganghennau, ac ymddengys i mi y dylai'r pwnc hwn, fel pob pwnc arall, gael ei drafod mewn pwyll a thegwch ysbryd, gan gydnabod ei anawsterau, a chydymdeimlo â'r neb sy'n ymdrechu o blaid yr iaith. Gymraeg tan anfanteision arbennig. Ceir rhai pobl yn trafod y mater hwn fel petai gnofa'n eu dala nes colli ohonynt eu tymer a throi i frathu a chicio'n lle ymresymu a cheisio argyhoeddi.

Parai gwrando ar yr Athro Syr John Morris-Jones yn cyfleu'r wêdd hanesyddol i addysg yng Nghymru i mi deimlo gymaint y cyfnewid er gwell a fu yn ystod yr amser er pan oeddwn i'n blentyn. Yr ysgolfeistres gyntaf a gofiaf i ym mhentref Llanbedrog oedd Saesnes. Ni welais ei henw mewn ysgrif, ac ni wn pa fodd y sillebid ef; ond yn ol y swn "Miss Iley" y gelwid hi. Mewn adeilad perthynol i'r Siop Ganol y cyfarfyddem a'r cwbl

yr wyf yn ei gofio o'r hyn a gefais yno yw ein bod yn canu ar ddiwedd yr ysgol

"Oh! that will be joyful, etc."

Wedi hynny, cafodd plant y pentref fantais Ysgol y Llan, tan addysg "Lisa'r Hendy"-fel y parchus elwid hi gennym; ac yr oedd hi'n un o'r merched anwylaf a duwiolaf a anadlodd awyr, ac yn diwyllio ysbryd yn gystal a deall. Ond ni chawsai hi ei hun fawr o addysg, ac nid oedd y Bwrdd Ysgol mewn grym.

Gan ddarfod i mi ddechreu labro am fy nhamaid pan yn hogyn, ni chefais fantais i ddeall fawr o Gymraeg, heb son am Saesneg; ac o herwydd fy myw yn Lerpwl er pan oeddwn ugain oed, ni feddaf awdurdod ysgolhaig o gwbl i siarad ar bwnc fel hwu. Hynny o brofiad a feddaf, eiddo Cymro mewn tref Seisnig ydyw am fwy na'r hanner canrif diweddaf, ac am dros ddeugain mlynedd fel gweinidog mewn eglwys Gymraeg. Cydnabyddai Syr John Morris-Jones fod y pulpud yn weithredydd o bwys ynglŷn âg iaith, ac yr wyf fi, fel pob gweinidog Cymreig mewn tref Seisnig, o angenrheidrwydd, wyneb yn wyneb â phroblem yr iaith Gymraeg. Mae'r cwestiwn hwn yn awr yn wahanol i'r hyn ydoedd hanner canrif yn ol. Y pryd hwnnw deuai yma lawer o deuluoedd o Gymru, a'r mwyafrif yn unieithog. Erbyn hyn, mae'r dyfodiaid yn llai, a'r mwyafrif yn deall Saesneg. O'r rhai a ddaeth yma gynt ac a ymsefydlodd yn y dref, mae eu disgynyddion yn medru Saesneg yn well na Chymraeg, ac nid ychydig or ail a'r drydydd genhedlaeth yn colli eu hiaith bron yn llwyr. Ac yn union yn y fan hon y cyferfydd gweinidog ac eglwys â'r broblem fwyaf anodd i'w datrys yn foddhaol. Cymer rhai olwg ry arwynebol arni, gan ddywedyd yn ddigon diera fod yn Lerpwl ddigon o gapeli Seisnig i'r neb na ddeallo Gymraeg, ac mai Cymraeg yn unig y dylid ei arfer mewn addoldai Cymreig. Mae'r

pwnc yn llawer dyfnach na hynny, ac yn ymwreiddio yng nghariad rhieni at eu plant â'r plant at eu rhieni. Câr rhieni a phlant fod gyd â'i gilydd. Naturiol yw i'r rhieni gwlatgar a chrefyddol lynu hyd y gallont wrth eu hiaith a'u cenedl hwy eu hunain. Eithr y ffaith yw fod ymhob capel rywrai analluog i ddeall a gwerthfawrogi moddion Cymraeg. Beth a wneir â'r cyfryw rai? Nid yw beio rhieni nac athrawon, mwy na'r bobl ieuanc eu hunain, yn cwrdd a'r anhawster. Ac yn y fan yma y caiff y pregethwr ei broblem fwyaf difrifol. Y ffaith syml yw bod o flaen ei bulpud ef eneidiau na fedrant ddeall ei genadwri ond yn amherffaith iawn; a chwestiwn ei gydwybod fel cennad dros Grist yw, Beth yw ei ddyletswydd tan yr amgylchiadau? Ai iawn iddo, ger bron Duw, yw ymgadw mor llwyr at un iaith os y gŵyr y buasai ambell frawddeg mewn iaith arall yn gymorth i wrandawr ddeall ei genadwri? Ai gormod-yn enwedig mewn tref Seisnig —a fâi ambell anerchiad achlysurol mewn iaith a ddéellid gan wrandawyr ieuanc? Y gosodiad Cristnogol yw bod achub enaid yn fwy pwysig nag unrhyw iaith. Nid wyf heb gofio gwerth iaith cenedl i'w chrefydd. Credaf mai'r iaith Gymraeg yw'r effeithiolaf i fynegi anian ac athrylith y Cymro, ac yn sicr ei brofiad ysbrydol. Credaf mai dyletswydd a braint pawb ohonom yw gwneuthur ein goreu i ddysgu a meithrin ein Heniaith ein hunain, a cheisio gan ereill i wneuthur yr un peth. Ond, er hynny, a fyunai neb i bulpud ac eglwys newynu pobl ieuanc allan oddi wrthynt? Neu a'i bodlon neb ar weld rhieni'n dilyn eu plant allan o'r eglwysi Cymraeg, yn hytrach na llefaru dim wrthynt yn Saesneg? Gwaith athro mewn Cymraeg yw dysgu'r iaith yn drwyadl i'w ddisgyblion, ond nid yr un yw safle llenor a phregethwr, neu athro ysgol Sabothol.

Nid pwnc o ramadeg yw'r Bregeth ar y Mynydd, eithr yn hytrach o gymeriad moesol ac ysbrydol. Cais y pregethwr

yrru i feddwl ei wrandawr yr apêl a gynnwys egwyddorion a gwirioneddau tragwyddol a digyfnewid, ac yn gyffredinol i bob iaith a chenedl. Mae'r iaith Gymraeg yn gyfrwng ardderchog i fynegi crefydd, a'r cyfrwng goreu i un a aned yn Gymro; ond nid yw iaith ynddi hi ei hun yn nôd eithaf, eithr gwirionedd a bywyd sy felly; a lle na cheffir y cyfrwng goreu, gwell yr eilradd na bod heb ddim.

Gwelir llawer o anghysondeb ac annhegwch yn agwedd rhai tuag at bregethwyr ac eglwysi Cymreig ar y mater tan sylw. Maent hwy eu hunain yn defnyddio ieithoedd estron i egluro'r iaith Gymraeg mewn cylchoedd neilltuol. Ni phetrusa athrawon ysgolion a cholegau wneuthur hynny. Eglurir y Gymraeg drwy'r Saesneg ac ieithoedd estron ereill mewn dosbarthau i ddisgyblion, a'r un modd mewn gramadegau i'r cyhoedd. Pwy a ddychmygai am eiliad fod un o Gymry dysgedicaf a phuraf ei oes-fy annwyl gyfaill Pedr Hir-yn cyhoeddi ei Key to the Welsh Bible yn Saesneg onibai ei fod yn gwybod mai gwell oedd y ffordd honno nag un arall ? Ond mynnai rhai osod gormes ar y pulpud a'r Ysgol Sabothol nas rhoddid ar ddim na neb arall. Gwneir hynny gan rai a draddodant areithiau Gwyl Ddewi yn Saesneg, a hyd yn oed anerchiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr esgus dros hyn, meddir, yw er mwyn i'r gwrandawyr ddeall yr hyn a draethir. Fel rheol, anerchir yn Saesneg er mwyn yr ychydig o'r gwyddfodolion na bydd yn deall Cymraeg. O'm rhan i, nid wyf yn gweld pa fodd y gellir cynnal Eisteddfod Genedlaethol heb ddim Saesneg ynddi. Nid boneddigaidd a fai cardota arian a chefnogaeth oddi wrth estroniaid a gwrthod iddynt unrhyw gydnabyddiaeth am hynny—dim cymaint, yn ol rheol rhai, a diolch iddynt yn eu hiaith eu hunain. Ac yn awr, gan fod yr arfer mor gyffredinol i ddefnyddio'r ddwy iaith, y naill i egluro'r llall, a defnydd

« PredošláPokračovať »