Obrázky na stránke
PDF
ePub

io'r Saesneg lle na bo gwrandawyr yn deall y Gymraeg, paham y beiruiedir yr eglwysi mor llym gan rai, yn enwedig mewn trefi estron, am ddefnyddio peth ar y Saesneg? Mewn gwirionedd, onid yw synnwyr cyffredin yn dangos mai dyletswydd pob gweinidog ac athro Ysgol Sabothol yw defnyddio'r iaith Gymraeg cyn belled ag y gall fod yn ymarferol, ac os y bydd y Saesneg yn fwy effeithiol wedyn, ei defnyddio hithau? Hyd y gwelaf i, defnydd doeth o'r ddwy iaith fydd yr unig ffordd i eglwysi Cymraeg gyfarfod â sefyllfa pethau fel y maent ar hyn o bryd mewn trefi Seisnig.

Nid wyf fodd yn y byd yn dibrisio'r pwys o gadwraeth yr Heniaith yn unman. Yr wyf yn edmygu'r athrawon a'r cymdeithasau sydd yn Lerpwl, fel mewn amryw drefi estron ereill, yn meithrin yr iaith a'r ysbryd Cymreig. Y gresyn yw na chaent fwy o gefnogaeth. Eithr yma, fel yng Nghymru ei hun, rhaid wrth gymorth y cartrefi, ac yn enwedig y fam. Er fy mod i raddau yn fy nghondemnio fy hun wrth hynny, fy nghred yw mai'r rheswm am fod gennym rai meibion a merched, a aned ac a faged yn Lerpwl, yn deall ac yn llefaru Cymraeg croyw yw, ddarfod iddynt ymarfer â'r iaith honno mor dda ar eu haelwydydd nes dyfod yn abl i'w deall mewn Beibl a phregeth. Ac er yn credu y rhaid wrth beth Saesneg, yn ein eglwysi Cymraeg, credaf yr un pryd dros ddyfal barhau ymlaen i gadw a meithrin ein Heniaith, a hynny ar gyfrif ei gwerth llenyddol a mynegiadol, yn enwedig i grefydd.

Ar y cyfan, mae'r Sais yn fwy parchus o'n hiaith yn awr nag y bu, a hynny i raddau helaeth o herwydd ein bod yn siarad ei iaith ef ei hun yn gywirach nag y gwnaem gynt. Annoeth, ni gredaf, yw inni wneuthur ein sêl dros ein iaith yn achlysur dig a chweryl rhyngom â chymdogion o genhedloedd ereill. Gwir ddarfod ein gorthrymu gan

Saeson, a bod ohonynt rai eto'n ein dirmygu; ond nid y ffordd i greu awyrgylch ffafriol i ddatblygiad ein nodweddion cenedlaethol ym mysg estroniaid yw eu diystyru a'u clewtio â geiriau senn. Nid anfynych y geilw rhai rhyw abstract o'r eiddynt yn "Sais", ac yna'i regi. Yr ydym ni yn trigiannu ym mysg cymdogion Seisnig, a than orfod i ymdrafod â hwynt yn eu hiaith eu hunain; a'n dylestwydd yw, gwneuthur ein goreu i feithrin teimladau da, a thuedd gyweithas, rhyngom ni a hwythau. Oni wnawn hynny, byddwn yn annheilwng o unrhyw iaith. Dibynna gwerth uchaf iaith ar ansawdd y galon a fynegir trwyddi. Pa werth sy mewn son am "ddisgleirdeb yr iaith Gymraeg ", os disgleirdeb fflam fyglyd rhêg a fydd iddi ? Pa glod fydd i "loywi'r Gymraeg", oni bydd namyn gloywder saeth a drochwyd yng ngwenwyn malais, a'i hanelu i galon brawd? Pa fudd a ddaw o sôn am y Gymraeg wen", a'r ysbryd a fo ynddi cyn ddued â'r inc? A'i gwell Cymraeg o enau cythraul na Saesneg o enau sant? Bydd ein Cymraeg, a phopeth annwyl a gwerthfawr arall a berthyn i'n cenedlaetholdeb, yn fyrr o gyrraedd yr amcan uchaf oni feithrinir brawdoldeb dynol trwy'r cwbl. Yr Heniaith annwyl!

66

Rhaid lliwio'r porffor perffaith

Yn wrid i ŵr wâd ei iaith.

(iv) YR ATHRO J. E. LLOYD, M.A., D.LITT.
Coleg y Brifysgol, Bangor.

Dywedodd yr Athro J. E. Lloyd nad hawdd oedd ateb y cwestiwn, ai ffafriol ai anffafriol oedd yr argoelion gyda golwg ar fywyd yr Iaith Gymraeg. Yr oedd yn eglur, ar y naill law, fod mwy o astudio ar yr iaith nag erioed yn ei hanes. Bum mlynedd a deugain yn ol, pan oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth, deuai'r Parch. D. Silvan Evans

yn achlysurol i'r coleg i gynnal dosbarth yn y Gymraeg nad oedd ond efe'n aelod ohono. Erbyn hyn, yr oedd yn Mhrifysgol Cymru ddeg o athrawon yn dysgu'r iaith a llu o fyfyrwyr yn dilyn y dosbarthiadau. Cyhoeddwyd rhestr yn ddiweddar yng nghylchgrawn Bwrdd Celtaidd y Brifysgol a ddanghosai fod ugeiniau o efrydwyr yn chwilio i mewn i wahanol bynciau yn codi allan o hanes, llên ac iaith y Cymry. Ceid hefyd, filoedd lawer oedd yn ymhyfrydu i ddarllen Cymraeg; prawf o hynny oedd llwyddiant eithriadol y Geiriadur Beiblaidd, a ymddanghosai dan nawdd diwinyddion y Brifysgol. Pwy allai dybied fod llenyddiaeth Gymreig yn dihoeni mewn oes a welodd gyhoeddi barddoniaeth Gwynn Jones a Williams Parry, chwedlau Tegla Davies, a beirniadaeth "Y Llenor"? Creadigaeth yr ugeinfed ganrif oedd y Ddrama Gymreig, ac os oedd yn hawdd canfod ynddi rai o ffaeleddau ieuenctid, nid oedd amheuaeth nad oedd wedi gafael yn dyn yn serchiadau'r wlad y ddrama wedi cymeryd lle'r gyngerdd a'r ddarlith i fesur helaeth iawn, a miloedd yn clywed parablu'r Gymraeg drwy'r cyfrwng yma na fuasent byth yn gwrando arni'n llefaru drwy unrhyw gyfrwng arall.

Yr oedd yn hollol amlwg, o leiaf yn y Gogledd, fod yr eisteddfod leol, cefn a sylfaen yr Eisteddfod genedlaethol, mor boblogaidd ag erioed: cyrchai'r torfeydd i leoedd anhygyrch, megys Pentre Foelas, i gynnal yr uchel wyliau hyn, a rhwyddheid y ffordd yn fawr gan y ffaith fod y motor erbyn hyn mor gyffredin yn ardaloedd gwledig Cymru.

Ond arwyddocâd y pethau hyn oedd fod adfywiad ar y Gymraeg ymhlith arweinwyr y genedl y dosbarth darllengar a deallus, y dosbarth allai brynu llyfrau a mynychu cyfarfodydd. Y cwestiwn yr oedd yn rhaid ei ateb cyn medru ymdawelu gyda golwg ar dynged yr iaith, oedd—a welid arwyddion ei bod yn llacio ei gafael ar werin y wlad,

yn peidio a bod yn iaith aelwydydd y bobl. Ar yr aelwyd yr oedd yn rhaid achub bywyd yr iaith; pe collid y frwydr yno, yr oedd yn bur amheus a allai unrhyw ddylanwad arall, boed athrofa neu ysgol neu senedd neu bulpud, ei diogelu. Nid oedd, fe allai, lawer o berigl yn y rhannau gwledig ac amaethyddol, lle y cedwid yr hên draddodiadau'n weddol gyson. Ond yr oedd cyflwr y rhannau gweith faol yn bur wahanol: yno, fe welid llanw y dylanwadau newydd yn dod i mewn fel lifeiriant anwrthwynebol. Tuedd yr oes oedd dileu gwahaniaethau lleol: ae'r motor a'r cinema a'r wireless dros wyneb y ddaear, yn dysgu i bawb fwynhau a gwerthfawrogi'r un pethau. Anodd oedd i'r Gymraeg wynebu'r dylanwadau hyn: eu tuedd oedd didoli'r genedl oddi wrth ei gorffennol a pheri iddi ymgolli yn y llanw mawr a elwid yn wareiddiad yr ugeinfed ganrif. Ond credai, serch hynny, nad oedd yn rhy ddiweddar i achub yr iaith. Yr oedd iddi lu o garedigion, pobl yn deall ei gwerth ac yn credu yr ae Cymru yn anfeidrol dlotach o'i cholli. Galwai'r argyfwng presennol arnynt oll i uno mewn brwdfrydedd ac ymroddiad, i greu awyrgylch fyddai'n ffafriol i'r iaith, i ennill cydymdeimlad o'i phlaid, hyd yn oed ar ran y sawl na fedrent ei chynhanu. Nid moddion gwleidyddol na gorfodol y gobeithiai ynddynt, ond egnion moesol, sicrhau'r farn gyhoeddus o blaid yr iaith ac yn arbennig cadw'r fflam yn fyw ar yr aelwydydd.

(v) YR ATHRO T. GWYNN JONES, M.A.
Coleg y Brifysgol, Aberystwyth.

Pan sonier am gadwraeth unpeth, fe olygir yn gyffredin fod y peth hwnnw mewn perigl a'i fod hefyd yn werth ei gadw. Ni threfnai Cymdeithas fel y Cymmrodorion gyfarfod o'r math hwn oni bai ymwybod o'r aelodau mai nid

rhywbeth y gellir ei fwrw heibio fel hen hugan yw iaith a'i thraddodiad. Ni all neb ystyriol mo'r gwadu nad yw'r Gymraeg mewn perigl heddyw. A barnu wrth yr ardaloedd lle y mae hi eisoes wedi colli neu ynteu yn colli, ni all neb ystyriol ychwaith lai na gweled mai dirywiad amlwg sy'n dilyn ei cholli. Nid yr iaith yn unig a gollir, ond traddodiad canrifoedd, a'r ymwybod nad pethau estron yw gwareiddiad a diwylliant, i'w hennill drwy golli pob hunan barch, drwy ddibrisio'r agos a gorbrisio'r pell. Yn lle Cymraeg urddasol a helaeth, ni cheir ond bratiaith. anhygar salw, a llwyr anallu i ddeall y diwylliant oedd dra chyffredin yng Nghymru gynt, ar y naill law, a'r diwylliant sydd eiddo i'r ychydig yn Lloegr, ar y llall. Canlyniad hyn yw bod rhannau o Gymru heddyw yn llawn o bobl gwbl ddi-wraidd. Diau fod yr un peth yn wir am wledydd ereill hefyd, a dichon fod rhai a ddadleuai y tyf o'r anhrefn hwnnw wareiddiad newydd-nad yw'r cwbl onid anghenraid natur. Os derbynnir y ddadl hon, nid oes dim i'w wneuthur ond gadael llonydd i bethau gymryd eu cwrs--yn wir, y ddyletswydd yw gwneuthur a aller i'w cyflymu, fel na bo hwy yr artaith nag y byddai raid ei bod. Eto, ni fynn yr elfennau sefydlog yng ngwareiddiad un wlad mo'r ymollwng hwnnw, ac y mae o leiaf gymaint a hyn i'w ddywedyd o'u plaid—mai o weddillion y gwareiddiad cynt, wedi'r anhrefn a'r dinistr, y cyfyd y gwareiddiad gwedyn, od oes coel ar hanes dyn. Felly, os yr amddiffyniad pennaf rhag anhrefn a dinistr mewn un wlad yw parch i'w thraddodiad a'i hiaith briod hi ei hun, oddifewn i'r feirniadaeth barhaus a geidw barch yn beth byw, yna, y mae'r Gymraeg a'i thraddodiad yr un peth a gwareiddiad yng Nghymru. Rhodder y prawf a fynner ar y gosodiad hwn, ac fe ddeil ei dir, hyd yn oed er gwaethaf y ffaith bod addysg a llywodraeth y wlad ers canrifoedd, naill ai drwy ormes ai drwy esgeulustra, yn erbyn yr iaith a'i thraddodiad. Am hynny, pan soniom am

« PredošláPokračovať »