Obrázky na stránke
PDF
ePub

ebe finnau. Ac wrth glywed Cymraeg mor gymysgryw a charpiog oddiar lawer tafod heddyw, a gorfod ei darllen mor gawlliog mewn ambell bapur a llyfr, rhyw ddirgelddymuno y byddaf am i Ragluniaeth ei hamdoi a thynnu'r caead dros ei harch a'm gado i gofio'r hen Gymraeg fel y byddai yng ngwisgoedd ei gogoniant, a gwrid yr hen glasuron ar ei gruddiau.

Y mae ieithoedd, fel popeth y fuchedd hon, yn ddarostyngedig i ddeddf oedran a defnyddioldeb; a phan elont yn rhy hen ac anhymig i fod yn ddefnyddiol, marw a mynd i ffordd yr holl ddaear fydd eu hanes hwythau fel ninnau. Eithr y mae'r fath "nerth bywyd anherfynol" yn y Gymraeg o'i rhan hi ei hun, a'r fath gyfoeth a chyfaddasder ynddi i wasanaethu'r oes hon ac oesoedd dyfodol, nes ei bod hi'n wir deilwng o bob ymdrech i'w harbed a’i pharhau ar wahân i bob serch ac anwyldeb a feddom tuagati oherwydd yr hyn a fu i'n cenedl, ac oherwydd y trysorau amrhisiadwy sy' nghadw ynddi.

Pe buasai Rhagluniaeth dirioned ag amgylchu Cymru â môr fel y gwnaeth â'r Werddon ac Ynys Manaw, neu ynteu pe buasai wedi ein gwthio i'r Gogledd fel y gwnaeth a'r Alban, buasai'n llawer haws arbed hoedl y Gymraeg nag ydyw; ond a ni megis yng nghesail Lloegr, ac yn noeth ac agored i lifeiriant y bywyd estronol oddi tros Glawdd Offa, y mae'n wyrth bod y Gymraeg yn fyw o gwbl, chweithach bod miliwn a mwy o'i phobl yn dal i'w llefair. Y mae holl osgo datblygiad bywyd y Deyrnas heddyw yn peryglu bywyd y Gymraeg; lluosowgwydd yr ymwelwyr a ddaw iddi; rhifedi cynhyddol y dieithriaid sy'n gwladychu yn derfynol yng Nghymru, hyd yn oed yn ei pharthau mwyaf gwledig; cynnydd y cyfnewid rhwng y naill wlad a'r llall; lledaeniad dyfais a gwyddor a chyddrafod masnachol; y cyfryngau teithio milwaith lluosocach a hwylusach na chynt-ydyw, y mae hyn oll â'i duedd

i ddisodli'n hiaith a'n teithi cynhenid fel cenedl; a'm cred ydyw y rhaid wrth rywbeth amgenach na dwrdio ar un llaw, ac nac apêl wirfoddol ar y llall, i atal y creeping paralysis sy'n graddol nesu a bygwth cyrraedd calon y Gymraeg. Rhaid wrth ymreolaeth a grym gorfod, onite ni waeth heb.

Diolch am bob sbardyn o help a geir o'r Aelwyd a'r Ysgol, o'r Eisteddfod a'r Ddrama, o'r Pulpud a'r Wasg; ond follow the line of least resistance yw gogwydd gwreiddiol y natur ddynol; a rhwng bod cynifer o'n pobl yn ildio i'r nerthoedd allanol a'r amgylchiadau anfanteisiol a ymesyd arnynt, bod miloedd eraill yn rhy ddwl ac anniwylliedig i ganfod gwerth yr iaith a'i llenyddiaeth drostynt eu hunain, a bod llïaws o Gymry yn ymgreinio ac yn barod i'w bwrw dros y bwrdd fel yscymunbeth a rhwystr, nid oes ddim a erbyd hoedl derfynol y Gymraeg ond i'r Cymry gael llywodraeth eu gwlad i'w dwylo hwy eu hunain a hawl i orfodi'r iaith yn ein cyfundrefn addysg drwy'r Ysgolion. Gall cenedl barhau'n ddwy ieithog am dymor, eithr nid byth. Lle bo dwy iaith mewn gwlad-un yn swyddogol ac o orfod a'r llall yn unig yn oddefol—prun fydd byw yn y pen draw? Y mae gofyn y cwestiwn yr un peth a'i ateb.

Prun bynnag a geir Ymreolaeth i Gymru ai na cheir, fy arfaeth a'm diofryd i ydyw dal ymlaen i siarad ac ysgrifennu Cymraeg goreu gallaf tra byddwyf, a gwneuthur fy eithaf i estyn ei heinioes drwy bob moddion dichonadwy i mi, megis y gwnawn â'm perthynas anwylaf hyd yn oed er credu ei fod yng ngafael afiechyd anfeddyginiaethol, modd y byddwyf yn glir o'i waed, ac y medrwyf edrych yn ei wyneb ddydd a ddaw.

Y mae'r Gymraeg yn deilwng o'n cyd-ymdrech fel cenedl i gael ei thynged i'n dwylo ni ein hunain, canys hi yw'r phïol sy'n dal a diogelu gwin ein gorffennol pell; dryllier

honno, ac nid byth yr heil neb mo'r gwin hwnnw yn ol

i'w phïol mwy.

(x) Mr. E. PROSSER RHYS.

Golygydd "Baner ac Amserau Cymru”, Aberystwyth.

Ni fynnaf i wastraffu dim amser i ddywedyd paham y mae cadw'r iaith Gymraeg mor hanfodol i genedl y Cymry, nac i bwysleisio mai ar yr ysgolion y disgyn pen trymaf y gwaith hwn. Er bod anawsterau mawrion ar ffordd y Gymraeg yng Nghymru heddiw, y mae'n rhaid ei chadw hi, a'r peth sy bwysig bellach yw cydio'n ddi-oed yn y dasg, yn hytrach na bodloni ar siarad damcaniaethol a chyffredinol. Y mae ei le i'r siarad hwnnw, ond fe gawsom lawn digon ohono erbyn heddiw.

I.

A chaniatau mai'r ysgol yw'r pennaf man i gadw'r Gymraeg, y mae gennym ninnau, nad ydym nac athrawon nac aelodau o gynghorau addysg, lawer i'w wneuthur at hyrwyddo dysg yr ysgol. A da a fyddai i ni ystyried beth a allwn ni ei wneuthur yn ein cylchoedd ein hunain at gadw'r Gymraeg. Fel aelod o staff papur newydd Cymraeg-bum i'n gofyn i mi fy hun beth a allai'r Wasg Gymraeg ei wneuthur yn rhagor at gadw'r iaith; ac am yr hyn a ddaeth i'm meddwl wedi gofyn y cwestiwn y dymunwn i sôn yn awr.

Ni wâd neb, mi goeliaf, wasanaeth mawr y Wasg Gymraeg i achos yr iaith. Ond y mae tuedd bendant ynddi i fod yn gyfyng ei diddordeb, fel y dywedodd Mr. Morgan Humphreys yn ei bamffled rhagorol ar "Gymru a'r Wasg". Cyfyngir sylw yn y papurau Cymraeg i ychydig o agweddau ar fywyd Cymru. (Gweddus i mi ddywedyd yma bod pob papur Cymraeg fel ei gilydd yn euog o'r

drwg.) Pair y culni diddordeb hwn nad oes gan y rhai a ymddoro yn rhai o symudiadau mwyaf diddorol y dydd, ddewis ond darllen y papurau Saesneg. Pair hefyd, ac nid heb esgus, ledu'r syniad nad oes werth ymarferol yn yr iaith Gymraeg yng nghymhleth fyd yr ugeinfed ganrif. Mynych y clywir Cymry nad ydynt na blaenoriaid na ffermwyr na phrydyddion, yn cwyno nad yw'r papurau Cymraeg yn eu cyfaddasu eu hunain at ddibenion yr oes, fel y dylent. Y rheswm pennaf am y culni diddordeb hwn -nid yr unig un, hwyrach-yw, nad oes yn y Gymraeg eiriau i son am y pethau a anwybyddir. Ag eithrio ambell air digon lletchwith a lunir gan bobl y papurau newyddion, saif iaith yn ei hunfan cyn belled ag y mae a wnelo hi a phethau fel chwarae, diwydiant, neu ddyfeisiau-pethau y sieryd pobl lawer yn eu cylch bob dydd.

yr

Cystal i mi ddywedyd yma ddarfod gwneuthur gwaith canmoladwy at gyfaddasu'r Gymraeg at rai canghennau o wybodaeth, megis eneideg ac athroniaeth, er yr amheuaf a ddodai awdurdodau'r Gymraeg eu bendith ar lawer o'r geiriau a fathwyd. Nid wyf yn cau fy llygaid ar y maes hwn. Ni fynnwn, ychwaith, sôn yn awr am y canghennau hynny o wybodaeth na chyfaddaswyd y Gymraeg at eu dibenion. Sôn a fynnwn i am bwysigrwydd cyfaddasu'r Gymraeg at ddibenion poblogaidd y dydd, ac am y cynhorthwy mawr y gallai'r Wasg Gymraeg ei roddi gyda'r gorchwyl hwnnw-gorchwyl na ellir achub y Gymraeg heb ei wneuthur.

Gwir i amgylchiadau fod yn gadarn yn erbyn y Gymraeg ers tro hir iawn, ond credaf y dylem fod yn nes ymlaen nag yr ydym gyda chyfaddasu'r Gymraeg at ddibenion poblogaidd. Wrth adfer ceinder ein hen lenyddiaeth i'n llenyddiaeth ddiweddar, ac wrth ddysgu eu cyd-wladwyr i sgrifennu Cymraeg cwbl gywir, y mae lle i ofni anghofio o'n hawdurdodau iaith yr hyn a ofynnai diddordebau

F

newyddion eu hoes ar eu llaw. Da oedd adfer gair tlws fel "llatai" i lenyddiaeth ddiweddar; ond ni welwyd yn dda roddi i Gymry cyffredin air Cymraeg am "dividend ”, er bod mwy o sôn am "dividends" nag am lateion yn y Cymru y sydd ohoni hi yn yr ugeinfed ganrif. Fe ddywed Cymry hyddysg ei bod yn eithaf hawdd llunio geiriau Cymraeg newydd at bob gofyn; ond ni thâl dywedyd hynny'n unig. Heb eu llunio eto y mae'r geiriau newydd.

Anorfod yw i iaith fyw ddilyn diddordebau'r oes, ac ychwanegu'n barhaus at rif ei geiriau. Geill iaith fod yn fwy dethol a phrydferth a soniarus wrth ei chyfyngu i'r pethau hynny sy gydnawsaf a'i theithi, ond ni eill hi fyw oni siarado ddiddordebau'r oes, boed diddordebau honuo mor groes i'w theithi ag y bônt. Rhaid i iaith fyw fod yn iaith bob dydd; ac o deallaf i fudiad yr iaith yn iawn, mudiad i wneuthur y Gymraeg yn iaith bob dydd ydyw. Ni ei hi fod yn iaith bob dydd oni byddo'n llithrig yn holl ddiddordebau bywyd bob dydd. Ni ddigwydd hynny hyd oni lunier geiriau Cymraeg at bob galw, ac ni bydd byw'r rheiny onis defnyddier ac onis cylchreder ym mhob caine o'r Wasg Gymraeg, a'u bwrw felly i eirfa lafar y Cymry. Defnyddio a chylchredeg y geiriau newydd yw'r gwasanaeth mwya' ddichon y Wasg Gymraeg at gadw'r Gym

raeg.

II.

Ystyrier chwareuon. Nid wyf i ddim yn chwaraewr fy hun, ond ni welaf ddrwg mewn chwarae, ac fe'm gorfodir i gydnabod bod chwarae'n cyfrif llawer yn ein hoes ni. Eto, er cymaint y diddordeb ynddo, ni chyhoedda'r un papur Cymraeg adroddiadau chwarae. Gadant i bapurau Saesneg, a gyhoeddir yn fynych yn yr un swyddfeydd, wneuthur a fynnont o'r chwarae! Ni eill Cymro a gymero ddiddordeb mewn chwarae gael hanes chwarae

« PredošláPokračovať »