Obrázky na stránke
PDF
ePub

mewn un papur Cymraeg. A phe penderfynai olygyddion gyhoeddi adroddiadau chwarae, sut y gellid eu sgrifennu'n Gymraeg? Fe Gymreigiai un papur yn y fan yma oreu fyth ag y medrai, ac un arall yn y fan acw; a thebig mai'r hyn a ddigwyddai a fyddai lunio ohonynt eiriau pur wahanol i'w gilydd, ac eiddo'r naill fel y llall yn ddigon di-lun, canys ni honna pobl y papurau newyddion fod yn ieithyddion, bellach. Ni ddeuai ond cymysgfa ohoni hyd nes lluniai'n hawdurdodau iaith eiriau iawn, a'u cydnabod a'u defnyddio gan bob golygydd. Efallai y byddai raid rhoddi'r gair Saesneg mewn cromfachau ar ol y gair Cymraeg newydd am ysbaid; ond fe gynefinai pobl bob yn dipyn a'r geiriau newyddion, ac erbyn y tyfai'r plant-a bwrw eu bod yn cael addysg wir Gymreig yn yr ysgolion yn y cyfamser-byddai'r geiriau hyn wedi cerdded ar hyd ddigon o bapurau, ac wedi eu llefaru, ond odid, ar ddigon o dafodau i golli pob newydd-deb a hynodrwydd a allai fod ynddynt ar y cychwyn. Yna fe enillai'r geiriau newydd eu lle'n naturiol yng ngeirfa bob dydd y genhedlaeth nesaf.

Ystyrier y dyfeisiadau poblogaidd eto. Dyna'r car modur. Treiddiodd ef hyd i'r parthau gwledig mwyaf anghysbell. Gwelir tai moduron bychain yn frith ar led Cymru Gymreig y dyddiau hyn,-un neu ddau ymhob pentref o'r braidd. Y mae'r modur yn greadur o bwys. Eto, nid oes golofn i'r modurwyr mewn cymaint ag un o'r papurau Cymraeg. Rhaid i'r llu bechgyn sy'n cymryd diddordeb mewn moduron fynnu papurau Saesneg. Yr un yw'r rheswm am hyn eto: diffyg geiriau Cymraeg am wahanol organau modur a'r llawer o bethau bach a mawr sydd ynglyn ag ef. Trist yw gwrando ar ddau Gymro Cymreig yn gorfod defnyddio geiriau Saesneg bob cynnig

wrth siarad am foduron.

A beth am y ddyfais a elwir yn awr yn deliffon di

wifrau? Cyflym y treiddia hon eto i bob rhan o Gymru, ac anghyffredin yw'r diddordeb a gymerir ynddi. Y mae gan y Saeson eisoes bapurau wythnosol yn ymwneuthur â'r ddyfais hon yn unig. Nid oes gymaint a cholofn i'r teliffon di-wifrau mewn papur Cymraeg, a'r diffyg geiriau yw'r prif faen tramgwydd.

Nid oes eiriau eto i son am faterion byd amlweddog diwydiant a chyllid etc. Nid yw materion o'r fath wedi cael y sylw a haeddent yn y Wasg Gymraeg am y rheswm hwn. Ni ellir egluro problemau diwydiant a chyllid ar hyn o bryd yn Gymraeg, yn foddhaol, ac y mae hynny'n arw iawn o beth. Pa mor annymunol bynnag i anian y Cymro yw anghenfil mawr diwydiant, tebig yw y bydd raid iddo gydfod ag ef am genedlaethau eto, a thra byddo diwydiant yn y byd o gwbl, hyd yn oed, ni eill y Cymro goleuedig fforddio ei anwybyddu.

III.

Efallai y dyfyd rhywrai mai ffordd beiriannol ac arwynebol a awgrymaf at wneuthur y Gymraeg yn iaith bob dydd groyw. Hyn a wn-bod llaweroedd o eiriau gwneuthur y Wasg Gymraeg wedi myned yn ddiogel i eirfa lafar y Cymry, megis "isrif cyflog" a'r adfydus ymadrodd hwnnw cymeryd lle". A gellir dadlu mai geiriau gwneuthur yw pob gair ymhob iaith. Ni welaf i reswm paham na ddylai'r dull hwn lwyddo.

66

Ac wrth ddibennu, mi hoffwn awgrymu i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, weini un gymwynas yn rhagor i Gymru, drwy benodi pwyllgor o ieithyddion cydnabyddedig i lunio geiriau i son am y pethau a grybwyllais, a phethau eraill cyffelyb, ac i bara i lunio geiriau fel y bo'r galw o hyd; a chyhoeddi'r geiriau newydd yn y "Cofnodion" neu mewn pamffled cyfnodol arbennig, ac apelio at olygydd pob papur a chylchgrawn

Cymraeg i ddefnyddio'r geiriau hynny. Credaf y byddai hynyna'n wasanaeth pwysig iawn at gadw'r Gymraeg.

(xi) PARCH. D. TECWYN EVANS, B.A., Bangor.

A chymryd golwg mor ddiragfarn ag y medrom ar y sefyllfa heddyw, credwn ei bod yn ddifrifol, er ei bod ymhell o fod yn anobeithiol. Y mae ambell un fel pe'n ymhyfrydu mewn honni bod y sefyllfa'n ddifrifol; ond myn eraill ohonom, sy'n mawr ddymuno hirhoedledd yr iaith, er ein gofid dwys, mai felly y mae, yn enwedig mewn rhai rhannau, er enghraifft, y mân drefi yn Sir Fflint a rhai ardaloedd ym Morgannwg. Y mae'n amheus (a dywedyd y lleiaf) gennym a oes cymaint o Gymraeg yn y lleoedd a nodwyd ag a oedd, dyweder ugain mlynedd yn ol. Wrth reswm, a chofio popeth, y mae bod yr iaith yn fyw o gwbl yn rhamant a rhyfeddod. Dywedodd Gwyddel dysgedig wrth ysgrifennydd y geiriau hyn, ychydig fisoedd yn ol, na wyddai ef am ryfeddod cyfartal yn Ewrob oll i hirhoedledd y Gymraeg.

Ond fe ddylai fod yn llawer mwy byw hyd yn oed nag y mae. Hyd y gwelwn ni, y perigl mwyaf heddyw yw i'r werin wadu'r iaith trwy beidio â'i harfer a'i darllen. Ryw ddeng mlynedd ar hugain yn ol, glynai'r werin-bobl yn dyn wrth y Gymraeg ond tuedd y bobl ddysgedig a'u plant yr adeg honno oedd siarad Saesneg. Heddyw, yng nghwrthwyneb i bethau fel yr oeddynt tua'r cyfnod a enwyd, y mae'r Cymry dysgedig a diwylliedig, at ei gilydd, yn siarad Cymraeg, ond y werin gymharol ddi-ddysg yu troi eu cefnau arni. Cysur yw cofio nad yw hynny'n wir am bedair neu bump o'r siroedd, ond yn ddiamau dyna'r gwir am y gweddill o'r wlad. Diffyg argyhoeddiadd o werth yr iaith sy'n cyfrif am hyn, a diffyg diwylliant. Canys, ar wahân i genedlaetholdeb, yr ydys yn barod iawn

i ddadleu y dylid cadw'r iaith yn fyw o safle diwylliant yn unig. Y mae miloedd yng Nghymru heddyw nad ydynt yn ddigon meddylgar a diwylliedig i wybod y gallant weled mwy trwy ddwy ffenestr nag a welant trwy ddim ond un!

Nid yw'n rhy ddiweddar i waredu'r Gymraeg rhag tranc. Rhoir llawer awgrym a chynllun ger ein bron o dro i dro, a da ydynt oll bron. Pwysleisir ar y cartref, yr ysgolion dydd, y colegau, yr ysgolion Sul, yr Eglwysi, ac felly ymlaen. A dyma ddau awgrym neu dri arall y byddai gweithredu yn unol â hwynt yn gryn help, fe gredwn: (a) Defnyddio'r "darluniau byw" i'r pwrpas hwn-eu troi'n Gymry fo'n siarad Cymraeg. Er gwell neu er gwaeth, y mae'r darluniau byw wedi "dyfod i aros" (chwedl y Saeson). Fe'u mynychir gan gannoedd bob wythnos yn ein mân drefi, a phe gwelai pobl y Gymraeg beunydd beunos ar y llenni, fe fyddai hynny'n gryn help. (b) Da hefyd fyddai dal ar bob cyfle i wneuthur i'r lledaenydd di-wifr siarad y firain gain Gymraeg. (c) Ac y mae'n amhosibl gorbrisio dylanwad y Ddrama Gymraeg o blaid parhad yr iaith. O'n rhan ni credwn y byddai'r sefyllfa'n anobeithiol mewn rhai parthau erbyn hyn, oni bai am yr help a gafodd yr iaith oddiwrth y Ddrama.

Cofiwn mai rhyw ffyn baglau yw'r pethau hyn oll, ond da eu cael hyd oni ddeffry ymhob Cymro a Chymraes fwy o hunan-barch cenedlaethol, a mwy o werthfawrogiad goleuedig o'n hiaith a'n llenyddiaeth, ein hanes a'n diwylliant cenedlaethol.

(xii) Y PARCH. W. A. LEWIS, Lerpwl.

Yr ym i gyd, mi dybiaf, yn hawlio ein bod yn Gymry gwlatgar, yn hoff o'r Gymraeg, ac yn dymuno "oes y byd" iddi, onide ni welid ni mewn cyfarfod fel hwn.

Cytunwn, hefyd, fod yr iaith yn un gwerth ei choledd, ac yn werth ymdrech ac aberth i gadw anadl einioes yn ei ffroenau. Yr ydym yma, nid i gŵynfan uwchben ei chyflwr, nac i feio'r tadau am eu golwg byr, llawer llai i ddal y Sais yn gyfrifol am sefyllfa'r Gymraeg heddyw, fel y gwneir yn barhaus mewn rhai cylchoedd. Cydnabyddwn yn llawn a pharod, i'r Sais, a'r Cymro'i hun, wneuthur camgymeriadau dybryd yn eu hymddygiad at yr iaith, yn yr amser a fu; ond yr ydym yma, i geisio goleuni ar ein llwybr yn y dyfodol, pa fodd yr ymgeleddwn yr iaith, a rhoddi estyniad einioes iddi hi.

Credaf fod anfarwoldeb y Gymraeg fel iaith lên yn ddiogel, ac nad oes angen pryderu dim yn ei chylch, diolch i frwdfrydedd, ymdrechion ac ysgolheictod y blynyddoedd diweddaf hyn. Ond am ei pharhad fel iaith lafar, ni allwn lai na phryderu weithiau. Cydymdeimlem yn fawr â sylw'r diweddar Mr. W. Llewelyn Williams, yng nghyfarfod y Cymmrodorion yng Nghaernarfon, bedair blynedd yn ol. Ar ol gwrando'r athrawon yn trafod y rhaglen oedd o flaen Bwrdd newydd yr Efrydiau Celtaidd, ebr ef, "Yr ydych yn cyflawni llawer o waith, yn ymgeleddu ac yn coethi'r iaith, yn treulio amser gwerthfawr ymysg pentyrrau o hen lawysgrifau llychlyd, yn troi allan weithiau clasurol ac ysgolheigaidd, a'r Gymraeg ei hun yn marw o gwmpas eich traed". A'r pwnc dyrys o hyd yw, pa fodd i gadw'r Gymraeg yn iaith fyw? Ni thybiaf y gellir tynnu allan unrhyw reol arbennig er diogelu'r iaith, ac nad all un meddyg osod ei fys ar set o gyfarwyddiadau, a dywedyd, "dyma'r feddyginiaeth anffaeledig". Nid yr un cynllun a wna'r tro ymhob man, ac o dan bob amgylchiad. Yr hyn sydd eisiau, yn flaenaf ac yn bennaf, ydyw meithrin ysbryd Cymreig,-cael hyd i ryw foddion i gynhyrchu barn gyhoeddus iach a chref, o berthynas i werth cynhenid yr iaith, a chreu awyrgylch

« PredošláPokračovať »