Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. CADWRAETH YR IAITH. ANERCHIADAU DRADDODWYD YNG NGHYFARFODYDD ADRAN GYMMRODOROL YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL (1925) YM MHWLLHELI. TYMOR 1924-25. SWYDDFA CYMDEITHAS Y CYMMRODORION, 64, CHANCERY LANE, LLUNDAIN. MYNEGAI. Nodiad gan y Golygydd ANERCHIADAU AC YSGRIFAU. TU-DALEN .. 1 i. Y PARCH G. HARTWELL JONES, D.D., D.Litt. ii. SYR JOHN MORRIS-JONES, M.A.., LI.D. 2 29 xiv, Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A. (Archdderwydd) 87 CADWRAETH YR IAITH. Anerchiadau a draddodwyd yng nghyfarfodydd Adran Gymmrodorol yr Eisteddfod Genedlaethol (1925) ym Mhwllheli. Yn gymaint â bod Pwyllgor Adrannol o dan lywyddiaeth y Gwir Barchedig Dr. John Owen, Esgob Tyddewi, wedi ei benodi i wneud ymchwiliad i safle bresennol yr iaith Gymraeg, barnodd Cyngor Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion mai diddorol yn gystal a buddiol fyddai cael trafodaeth gyffredinol ar gwestiwn yr Iaith, yng nghyfarfodydd Adran Gymmrodorol yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli (1925), a gofynnwyd i'r Parchedig Ddoctor G. Hartwell Jones i baratoi Anerchiad helaeth i agor y pwnc. Cynhaliwyd dau gyfarfod yn neuadd Capel Penlan, y naill o dan lywyddiaeth Doctor O. Wynne Griffith, Maer y Dre, a'r llall (yn absenoldeb y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, O.M., A.S.) o dan arweiniad y Prif-Athro Maurice Jones, M.A., D.D., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i drin y mater, pryd y derbyniwyd yr ysgrifau a'r anerchiadau a gynwysir yn y rhan hon o Drafodion y Gymdeithas. Fe welir, wrth eu darllen, fod cryn amrywiaeth barn ymhlith caredigion yr iaith gyda golwg ar y moddion goreu i'w chyfnerthu a'i chadw. I'r diben o sicrhau ystyriaeth bellach i fater sy'n dal cysylltiad agos â'u dyfodol, cyflwyna'r Cyngor yr Adroddiad presennol i sylw eu cydgenedl. Argreffir yr ysgrifau yn orgraff y gwahanol awduron.-V.E. B |