Obrázky na stránke
PDF
ePub

baentir o flaen ein llygaid mewn lliwiau glas a melyn yn y "Physical Atlas," fod y gwaed Celtaidd, sydd yn rhedeg trwy wythïenau y Cymro, yn meddu ar lai o'r elfenau sydd yn anghenrheidiol i gyfarfod anhawsderau a'u darostwng, a thrwy hyny i ymddyrchafu i gyfoeth ac annibyniaeth, nag ydyw y gwaed Teutonaidd sydd yn rhoi gwroldeb i galon a grym i fraich y Sais? Nis gallwn roi ein llaw wrth y fath addefiad heb deimlo loes sydd yn ein hanner berswadio fod rhyw gam-chwareu yn yr ymresymiad sydd yn cyfreithloni y fath gasgliad; ac eto nis gwyddom yn iawn pa beth i wneyd o'r ffeithiau sydd yn ein herbyn, na pha fodd i dynu casgliad arall o isafiaeth addefedig y gwledydd, neu gyrau y gwledydd, lle y preswylia y Celtiaid. Ond pa fodd bynag, mae ynom ddigon o falchder ac uchelgais i fagu ac i gynnal y grediniaeth nad ydym waeth nac is na dynion eraill, er pentyru rhesymau fel y Wyddfa i brofi ein bod. Ni fynwn gredu yn isafiaeth ein cenedl nes y bydd y "Traethodydd" wedi goroesi un chwarter canrif, beth bynag; ac os bydd raid i ni addef wed'yn fod rhai dyferion o felldith Cham wedi disgyn i gwpan Gomer, yr ydym wedi penderfynu am danom ein hunain, yn bersonol, i roi i fewn yn yr âch sydd yn ein cysylltu â'r hen dywysogion Cymreig, un o ganlynwyr William neu Hengist, os bydd hyny yn anghenrheidiol er amddiffyniad ein cyfartalwch â'n cymydogion.

Nid ydym yn meddwl fod enw Dr. Mandeville yn ddigon adnabyddus yn Nghymru, i ni geisio amddiffyn ein cenedl trwy briodoli iddynt ei syniadau ef-fod rhinwedd yn anffafriol i lwyddiant a chyfoeth gwladol, a chyfoeth gwladol yn anffafriol i rinwedd. Mae arnom ofn na ddeuwn i ben wrth geisio olrhain eu diffyg o benderfyniad, darbodaeth, cysondeb, hunanymwadiad, a'r mân rinweddau sydd yn sicrhau llwyddiant bydol, i gariad at bethau uwch na llwyddiant a chysur corfforol. Pe'n darbwyllid mai cariad at bethau ysbrydol a thragywyddol sydd wedi codi ein cenedl uwchlaw cysuron a danteithion y corff, ac wedi llyncu eu bryd fel nad oes ganddynt amser na chwaeth at ddarganfyddiadau celfyddyd, na phrydferthwch llenyddiaeth, cymmodid ni i ryw fesur âg agwedd bresennol ein gwlad. Ond mae yn anghenrheidiol cofio fod yn bosibl fod islaw y pethau hyn yn gystal ag uwchlaw iddynt. A oes eisieu petruso dyweyd mai hyn yw ein hagwedd ni? ac nid rhyfedd; y mae ein tlodi i fesur mawr, os nad yn hollol, yn ei esbonio. Mae meithrin gwybodaeth er ei mwyn ei hun, a chynnal sefydliadau lle y meithrinir celfyddydau addurniadol, yn anmhosiblrwydd mewn gwlad lle mae tlodi yn gwasgu ar sodlau pawb, ac yn gwneyd mai y cwestiwn cyntaf a'r olaf ydyw, "Pa beth a fwytäwn, a pha beth a yfwn, ac â pha beth yr ymddilladwn?" Pan mae dynion wedi rhyddhau i fesur oddiwrth orchwylion anghenrheidiol bywyd, pan mae cyfoeth wedi cynnyddu fel nad rhaid i bawb fod yn gaethwas i alwadau y cylla, dyna y pryd, medd Cicero, y mae dynion yn caru gwrandaw, dysgu, a chwilio, yr hyn sydd ddeniadol trwy ei newydd-deb neu ei brydferthwch. "Cum sumus necessariis negotiis curisque vacui, tum, avemus aliquid videre, audire, ac discere; cognitionemque rerum aut occultarum, aut admirabilium, ad beate vivendum necessarium ducimus." Os gwir hyn, ac mae deddf achos ac effaith, yn gystal a hanes pob gwlad yn ei wirio, y mae pob ymdrech i symbylu ein eydgenedl ymlaen gyda'r byd hwn, ac yn y meithriniad o'r rhinweddau sydd yn sicrhau llwyddiant ynddo, yn rhan arbenig o ddyledswydd pawb a broffesa awydd i weled Cymru yn ymddyosg o'i hanwybodaeth a'i harferion barbaraidd (maddeued yr Arabiaid a'r Hottentotiaid i ni, mae gan Gymry arfer a godai

wrid ar eu croen melynddu hwy), ac yn rhoi amser priodol i addysg eu plant, ac i feithriniad eu meddyliau eu hunain. Nid ydym yn ammheu nad oes llawer yn ein gwlad yn meddwl mai mwy crefyddol ynom fyddai annog y bobl i fod yn foddlawn ar yr hyn sydd ganddynt na'u hannog i ymdrechu am ychwaneg. Mae ystyr deublyg i'r gair boddlonrwydd, a all gamarwain llawer; un ydyw y gwrthwyneb i ymdrech, y llall ydyw y gwrthwyneb i rwgnachrwydd. Yn yr ystyr olaf y mae boddlonrwydd yn rhinwedd. Nid yw y dyn sydd yn ymdrechu ei oreu am gyfoeth, a dysgeidiaeth, a rhinwedd, a chlod, ddim o anghenrheidrwydd yn anfoddlawn ac anhapus; yn wir, y mae ymdrech am wrthddrychau priodol yn un elfen mewn dedwyddwch.

Mae yn dda genym feddwl fod ymdrechiadau yn cael eu gwneyd, sydd yn fwy cyffredinol a grymus eu dylanwad na dim fu yn ein gwlad o'r blaen, a bod arwyddion gwanaidd nad ydynt yn hollol ddïeffaith. Pa anfantais bynag sydd yn ein gwaed, y mae un peth o'n hochr, os defnyddiwn ef yn iawn; yr ydym yn bobl gymdeithasgar: mae rhywbeth ynom sydd yn ein harwain i gymeryd mantais o'r gwirair-"Y mae undeb yn nerth." Nid ydym heb led feddwl weithiau ein bod yn rhy gymdeithasgar-fod ein cymdeithasgarwch yn dadsylfaenu ein personoliaeth-ein bod yn pwyso cymaint ar ein gilydd fel nas gwyddom pa fodd i bwyso arnom ein hunain. Onis gall hyn fod yn un o'r gwersi sy genym i'w dysgu fel cenedl-gwybod pa fodd i uno ammodau a nerth cymdeithas, â phenderfyniad a rhyddid personol?

Yr hyn sydd genym mewn golwg yn y sylwadau hyn ydyw y "Freehold Land Society;" cymdeithas a sefydlwyd gyntaf yn Birmingham, flwyddyn neu ddwy yn ol; ond yn bresennol y mae lliaws o honynt wedi eu sefydlu trwy Loegr, ac mae y newyddiaduron yn hysbysu sefydliad rhai newyddion yn barhaus. Ei dyben ydyw ennill hawl i bleidleisio dros ymgeisydd i'r senedd. Y moddion ydyw, i ddynion amddifaid o bleidlais yn ol y ddeddf bresennol, ffurfio eu hunain yn gymdeithas, i brynu ystâd neu diroedd a all fod ar werth, a'u rhanu yn lotiau, gwerth deugain swllt yn y flwyddyn, i'r aelodau, yn ol eu cyfraniadau at y drysorfa. Mae cyfansoddiad Prydain yn rhoi pleidlais i bob dyn sydd yn perchenogi tir o werth deugain swllt yn y flwyddyn; ac mae y cymdeithasau hyn, mewn cydymffurfiad â'r ddeddf hon, wedi creu llawer o gannoedd o etholwyr yn barod, heblaw rhoi iddynt fwy nag a gawsent am eu harian un ffordd arall. Mae llawer o law-weithwyr trefydd Lloegr, trwy gymedroldeb, a chynnildeb, a diwydrwydd, y ddwy flynedd neu dair diweddaf, wedi pwrcasu lotiau o dir, a chael o bump i ddeg punt y cant o lôg ar eu harian, yr hyn ni chawsent mewn un ffordd arall, heblaw eu bod yn cael y diogelwch mwyaf a ellir gael ar y ddaear hon, sef y ddaear ei hun; ac yn ychwanegol at y cwbl, y maent, trwy eu hymroddiad a'u gweithgarwch eu hunain yn codi eu safle mewn cymdeithas, fel nas gall mawrion y wlad edrych yn ddirmygus arnynt, am y bydd rhai o honynt bob tair blynedd neu bedair i'w gweled wrth eu drysau yn bur ostyngedig yn gofyn ffafr eu pleidlais. Nid ein bwriad yn bresennol ydyw gwneyd namyn rhoi brasddarlun o'r cymdeithasau hyn, a galw sylw ein cydwladwyr atynt. Yn eu dyben a'u moddion y maent yn hynod deilwng ac yn hynod gyfaddas i gyfarfod diffygion cenedlaethol sydd yn perthyn i ni.

Addefa pawb, hyd yn nod Arglwydd John Russell ei hun, fod cynnrych

iolaeth y deyrnas hon yn hynod afreolaidd, eithriadol, ac anghyson; nad yw yn bresennol yn sylfaenedig ar ddosbarthiad teg o eiddo, o gymhwysder meddyliol, cyfraniad at gyllidau y wlad, oedran, na rhyw; nad yw yn hollol wrth fodd yr un blaid, nac yn gyson â'r un gyfundrefn o egwyddorion. Ond pa mor wallus bynag, y mae y rhinwedd fawr hon yn perthyn i gyfundrefn Lloegr ar y pwnc o gynnrychiolaeth seneddol :-nid bai y cyfansoddiad fydd os gwelir y wlad hon, fel teyrnasoedd y Cyfandir, yn cael ei thaflu i annhrefn trwy ymgodiad y bobl yn erbyn y milwyr; y naill yn amddiffyn hawliau y cyffredin, a'r llall yn ymladd dros ormes a bradwriaeth eu meistr; heb wneyd un cyfnewidiad, mae cyfansoddiad Prydain yn agor ei ddorau i bob dyn sydd yn feddiannol, neu a wna ei hun yn feddiannol, ar dir i'r swm o ddeugain swllt yn y flwyddyn. Mae yr annibyniaeth teimlad, y llais yn ngwneuthuriad deddfau y wlad, a phob mantais sydd yn perthyn i etholwr, i'w cael ar y telerau uchod. Os yw y cyffredin yn teimlo awydd i lanhau eu Tŷ oddiwrth swyddgeiswyr, a dadymchwelyd byrddau y cyfnewidwyr arian, a'i gysegru yn neuadd bur i ddeddf-wneuthuriaeth y genedl, y mae ganddynt ffordd fwy unol â llythyren y gyfraith, beth bynag am ei hysbryd, nag oedd gan Cromwell pan yn taraw ei droed yn y llawr a pheri iddynt fyned allan.

Mae y cymdeithasau hyn, yn y moddion sydd ganddynt i gyrhaedd eu dyben, trwy gefnogi pob ymdrech a phob sefydliad er meithriniad cymedroldeb, cynnildeb, gweithgarwch, a hunanymwadiad, yn ymddangos i ni yn hynod deilwng i'w hargymhell ar sylw ein cenedl. Mae yn bosibl i siopwyr, a llawer o weithwyr, chwarelwyr, er esiampl, yn enwedigol, trwy ffyddlondeb i'w clybiau duon (trwy ba anffawd bynag y cawsant enw mor groes i'w dyben), gymeryd mantais o'r cymdeithasau hyn. Pe annogem yr amaethwr i feddwl am danynt, a thrwy eu hofferynoldeb i ymdrechu cael ychydig erwau o dir yn eiddo ei hun, fel rhyw ddechreuad ac ernes sicrhau tyddyn cryno iddo ei hun, ac i'w blant ar ei ol, fe allai y chwarddai am ben ein diffyg synwyr, neu fe gyffroai ei ddigofaint o herwydd ein gwawd am ben ei dlodi a'i drueni; ond maddeued i ni, er hyny; fe ddaw eto haul ar fryn-troi y mae yr olwyn, ac fe ddaw ei fraich yntau i gyfeirio i fyny eto. Meddylied am uno ei ddiwydrwydd a'i gynnildeb gyd âg ymddibyniad ar ei fedr a'i benderfyniad ei hun, ac nid ar ddeddfau i sicrhau prisiau uchel, y rhai fyddent sier o droi allan yn siomedig pe ceid hwynt, yr hyn hefyd sydd wedi myned yn anmhosiblrwydd yn Mhrydain byth eto, ac yna ni choeliwn ni na ddaw adeg eto yn fuan y gall, os myn, godi ei hun uwchlaw y sefyllfa ymddibynol a gwasaidd y mae amaethwyr ein gwlad ynddi. Ond rhaid iddynt gofio eu bod hwy eu hunain yn sefyll mewn mwy o anghen eu diwygio na dim deddfau sydd yn dwyn perthynas â hwynt fel dosbarth o ddynion. Nid ydym yn gwadu nad ydyw yn rhesymol a theg iddynt ddysgwyl am gael eu hardrethi wedi eu cyfartalu i'w prisiau; ond hyn a ddywedwn eto, fod y cwbl yn ymddibynu arnynt eu hunain. Nid oes genym ammheuaeth nad oes ar amaethwyr ein teyrnas eisieu dysgu y wers o ymddibynu arnynt eu hunain, eu penderfyniad, eu gwybodaeth, a'u hymroddiad eu hunain, yn fwy nag un dosbarth arall yn y wlad.

DINBYCH, ARGRAFFWYD GAN THOMAS GEE.

Y TRAETHODYDD.

DANIEL ROWLANDS, A'I AMSERAU.

UN o'r pethau sydd yn hynodi yr oes hon, ydyw y drafferth a gymer i geisio gwneuthur cyfiawnder âg enwogion yr oesoedd blaenorol. Ac nid oes arwydd gwell ar oes, mwy nag ar ddyn, na'i gweled yn gallu prisio yr hyn oedd ragorol yn y rhai hyny a fu o'i blaen; oblegid os nad all ganfod rhagoriaethau y dyddiau gynt, y mae yn dra thebyg na bydd iddi ychwaith ysgöi eu gwallau. Nid ydyw mawrion y ddaear yn gyffredin yn cael cyfiawnder nes ei gadael. Dywedai Bacon wrth farw, ei fod yn cyflwyno ei gymeriad i'w olynwyr, gan awgrymu drwy hyny nad ydoedd yn dysgwyl cyfiawnder gan ei gydoeswyr: a mynych y mae yn dygwydd mai y rhai a fydd heb weled wynebau mawrion y byd yn y cnawd, fydd yn eu hadwaen oreu, ac yn gallu dywedyd egluraf wrth eraill pa fath oeddynt. Fe all gwrthddrych, mewn ystyr naturiol, fod yn rhy agos fel yn rhy bell i'w weled; felly yn myd y meddwl, gellir bod yn rhy agos fel yn rhy bell i weled un yn gywir, a'i farnu yn gyfiawn. Y mae mor hawdd gwyro ein barn ynghylch personau a phethau, fel mai camp ydyw cael ateb cywir i'r gofyniad, Beth yw gwirionedd? mewn perthynas iddynt. Nid all ond y rhai hyny, sydd yn meddu ar raddau o'r un peth a'r dyn mawr, ei adwaen na'i ddesgrifio; ond y mae rhagfarn a chenfigen tuag ato oblegid ei fawredd yn aml yn eu hattal i'w weled fel y mae; fel nid yn unig nis mynant, ond nas gallant o'u plegid ei ddesgrifio i eraill. Ond wedi iddo farw, gellir edrych ar ei fawredd heb i'r mawredd hwnw dd'od i ymgystadlaeth âg unrhyw fawredd y tybia yr edrychwyr sydd yn perthyn iddynt hwy; ac un i fil na chaiff gyfiawnder ganddynt. Y mae mawrion y byd, fel y patriarch Abraham, wedi derbyn addewid am etifeddiaeth; ond fel yntau bron oll yn marw heb dderbyn y cyflawniad: ond fe bâr rhagluniaeth y nef i bethau gydweithio fel ag i'w chyflawni yn hwyr neu yn hwyrach. Os edrychir arnynt yn hir gyda dirmyg fel yr edrychwyd ar hiliogaeth Abraham, sicr ydyw y gwawria y dydd y cânt eu hawl. Bu Cromwell yn cael ei gablu am oesoedd; ond o'r diwedd y mae pawb, ond y rhai hyny sydd mor ddall fel na fynant weled, yn ei gydnabod yn ddyn mawr ac yn ddyn da-yn un o'r tywysogion mwyaf galluog a fu erioed yn eistedd ar orsedd Prydain, ac yn un o'r cristionogion goreu a fu yn addurno eglwys Dduw.

Y mae geuym y fantais a rydd pellder i ffurfio barn gywir am Daniel Rowlands, y dyn hynod yr ydym am alw sylw ato yn awr. Wrth wneuthur hyn, nid ydym heb deimlo yn ddwys fawredd ac anhawsderau y testun, nac [GORPHENAF, 1850.]

U

yn

heb bron anobeithio gwneuthur dim tebyg i gyfiawnder âg ef. Ein hunig reswm dros ei gymeryd ydyw y swyn sydd ganddo i'n meddwl, a'r dyddordeb a deimlwn ynddo; ac os methwn a throsglwyddo yr un teimlad i fynwesau y rhai a all fod yn amddifaid o hono, hyderu yr ydym y priodolir hyny, nidi ddiffyg mawredd yn y person, ond i ddiffyg medr yn yr hwn a gymerai arno ddangos y mawredd hwnw. Eto, wrth ddechreu, iawn ydyw i ni wybod yr anfanteision yr ydym danynt i wneuthur cyfiawnder â'r testun. Er eu gwybod, tebyg ydyw y methwn; ond heb eu gwybod, y mae methiant sicr yn ein haros. Un o'r anfanteision hyn ydyw, fod ein hoes ni yn dra gwahanol i'r oes yr oedd Rowlands yn enwog ynddi. Ni ddywedwn ddim yn awr am ei oes ef, am y bwriadwn wneuthur hyny eto; ond am yr oes hon, tybied yr ydym pe codai y rhai oedd yn byw er's can' mlynedd oddiwrth y meirw, y byddai y cyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lle ar bob peth er hyny, yn peri mai prin y gallant gredu mai hon oedd y wlad y buont hwy byw ynddi. Nid ydyw y cyfnewidiadau mae y trigolion wedi eu gwneuthur mewn ystyr naturiol, ddim ond mynegai i gyfnewidiadau mwy sydd wedi cymeryd lle ynddynt hwy eu hunain. Y mae y farn bron am bob peth wedi ei newid. Nid ydyw fod ein tadau wedi dywedyd fod peth yn anmhosibl yn ddigon i beri i ni gredu ei fod felly, ac nid ydyw fod ein tadau yn ystyried dyn yn un mawr yn cael ei gymeryd yn ddigon o brawf i ni mai un felly ydoedd. Dywedodd y rhai gynt mai un mawr oedd Rowlands, a phe buasai ein hoes ni yn cyfateb i'w hoes hwynt fel wyneb i wyneb mewn dwfr, buasem ar unwaith yn barnu fel hwythau; ond mae yr annhebygolrwydd sydd rhyngom, yn anfantais i ni wybod y gwirionedd yn ei gylch.

Anfantais arall i ni dynu darlun teg o hono ydyw, fod yr hyn yr oedd Rowlands yn benaf yn enwog ynddo, yn beth nas gellir ei baentio na'i ddarlunio, sef areinrwydd (eloquence). Gallwn ddywedyd beth nad ydyw -yr ydym yn ei adwaen pan welwn ef, er hyny y mae fel gweledigaeth Paul yn beth annhraethadwy. Bywyd areithyddiaeth ydyw; ond byddai mor hawdd darlunio y bywyd naturiol a'i ddarlunio yntau. Ysbryd y peth byw ydyw. Amlyga ei hun mewn myrdd o wahanol ffyrdd. Gwelsom ef mewn hyawdledd, ond nid hyawdledd ydyw; oblegid ni a glywsom yr hyawdledd mwyaf lawer gwaith heb y peth byw ynddo-teimlasom ef mewn ffraethineb, ond nid ffraethineb ydyw; oblegid ni glywsom ffraethineb aml dro heb deimlo fod y peth byw ynddo. Clywsom ef yn nhôn y llais, gwelsom ef yn ystumiau y corff, nes yr oedd yn trydanu ein holl natur; ond nid y dôn na'r ystum ydoedd; oblegid ni a glywsom y tônau mwyaf peraidd, ni a welsom yr ystumiau mwyaf prydferth, ond heb y peth byw ynddynt. Ae er ein bod wedi ei weled lawer gwaith, nid ydyw byth i'w weled mewn dau yr un fath: am hyny nid ydyw ein bod yn gydnabyddus âg ef mewn naw yn ddim cymhorth i ni wybod, pa fath ydyw yn y degfed; oblegid y mae bob amser yn beth newydd ar y ddaear. Y mae ynddo rywbeth yn debyg yn mhawb; ond y mae hefyd gymaint o wahaniaeth, fel y gellir dywedyd am bob un sydd yn ei feddu, fel y dywedodd un am wrthddrych ein hysgrif, na chlywodd ef erioed ond un Rowlands; gan feddwl wrth hyny na chlywodd erioed o'i fath. Felly hefyd gellir dywedyd na chlywodd y byd ond un Christmas Evans, un John Elias, ac un Williams o'r Wern.

Y mae dau fath o fawredd yn perthyn i ddynion, y naill yn fawredd gwirioneddol, a'r llall yn fawredd amgylchiadol. Byddai yr hwn sydd yn meddu

« PredošláPokračovať »